Dyma ddarlun o blant
yr Ysgol yn Enlli. Yr Athrawes ydyw Mrs Murray Williams, chwaer y
ddiweddar genhades, Miss Lucy
Murray.

Gelwir
Enlli yn ‘Ynys y Saint;’ yno y cyrchai’r pererinion, ac y claddwyd
llu ohonynyt yn yr henoesoedd. O dref Aberdaron yng Ngorllewin Sir
Gaernarfon eir mewn cwch i’r ynys. Ar y cwr deheuol saif y Goleudy
sydd yn cyfarwyddo’r morwyr yn y nos a’r storm. Pan ofynnwyd i’r
bachgen a welir ar y dde beth oedd am fod dywedodd; “Capten un o’r
llongau mawr”. Ardderchog, onide, ydyw cael nod uchel a chadw ato!
Gobeithio y bydd William yn gapten un o’r ‘Liners’ y mae yn ei
weld yn mynd heibio ei gartref.

Ar
yr ynys ceir saith o ffermydd, pedwar o dai annedd eraill, yr ysgol, y
capel a thy’r gweinidog. Y gweinidog ydyw’r Parch Edward Evans,
B.A., a fu am gyfnod maith yn genhadwr yn Nigeria, Affrica.
Cafn Enlli
Mor
brydferth ydyw’r darlun o’r plant ar y treath yn gwylio’r ymwelwyr
yn glanio! Fe dddaw’r ‘SORFA Fach i’r ynys bob mis, gan deithio o
dy i dy, nes y bydd pawb wedi ei gweled a mwynhay ei chwmni. Darllenant
bob llyfr a anfonir iddynt o Lyfrgell y Sir, a charent gael mwy o lyfrau
Cymraeg.
Fe
ddarfu i Dame Margaret Lloyd George yn garedig roddi harmonium i’w
helpu gyda’r canu, ac y mae Mr Lovatt, Llundain, newydd ddanfon iddynt
‘wireless set’. Y mae y boneddwr Mt Talmage Davies, Cricieth wedi
cymeryd diddordeb mawr ers blynyddoedd ym mhlant yr ynys, wedi anfon
llawer o roddion iddynt, ac eleni wedi treulio ei wyliau gyda hwynt. Ni
synnwn pe bai iddynt ei ethol yn ‘Frenin’ yr ynys! Os bydd gennych
lyfrau neu anrhegion y carech eu hanfon i blant Enlli, byddant yn falch
ohonynt. Ac os ewch yno yn yr haf am eich gwyliau, cewch y croeso goreu
erioed.
Gan
y Parch J.Bennett Williams, BA, Cricieth o Trysorfa’r Plant, Ionawr
1934.