Plwyf
amaethyddol ydyw Bryncroes, ym Mhen Lleyn, yn cynnwys yn ol cyfrifiad
1901, 744 o drigolion. Dyddorol yw sylwi mai 799 ydoedd nifer y boblogaeth
yn 1801. Saif yr Eglwys yn agos yng nghanol y plwyf mewn lle tawel a
dymunol, tua hanner milldir o’r brif ffordd sydd yn myned o Aberdaron i
Bwllheli, rhyw bum milldir o’r blaenaf a deuddeg milldir o Bwllheli, prif
ddinas Lleyn. Ni wyddys yn sicr paham y gelwir y plwyf wrth yr enw uchod.
Tybia rhai fod ffurf arwynebol y tir yn cyfrif am yr enw. Meddylia eraill
mai yn yr oesau canol yn yr amser y Croes Gadau y ffurfiwyd Bryncroes yn
blwyf ac yr adeiladwyd Eglwys yma yn gyntaf;
tra y cred eraill fod yr enw wedi nei roddi arno am fod yr Eglwys wedi ei
chyflwyno i’r Groes Sanctaidd, ond prin cywir y syniad olaf gan mai i’r
Forwyn Fair Fendigaid y mae yr Eglwys wedi ei chyflwyno. Mae y rhan fwyaf
o Eglwysi Lleyn wedi eu cyflwyno i hen Seintiau Cymreig a flodeuant yn y
bumed a’r chweched ganrif. Ond y mae yn dra thebyg i Eglwys Bryncroes gael
ei sefydlu mewn cyfnod diweddarach.
Hwyrach i’r Cristnogion cyntefig godi allor addoliad yma ar ffurf croes.
Gwyddom y byddai Cristnogion yn yr amser a fu yn hoff o adeiladu Eglwysi
gerllaw y ffynhonau Sacnctaidd. Mae Eglwys Bryncroes wedi ei chodi felly.
Saif yr Eglwys yn agos i Ffynnon Fair, a diau y byddai y dychweledigion yn
cael eu bedyddio yn y Ffynnon Fair, ac o’r Ffynnon Sanctaidd y ceir y dwfr
hyd heddiw i weinyddu y Sacrament o Fedydd yn Eglwys Fair Bryncroes.
Mae yn
ddiamheu fod yna gysylltiad agos yn y canol-oesau rhwng Bryncroes a
Mynachlog enwog Enlli. Mae hyn yn ddigon eglur ond sylwi ar enwau rhai o
ffermdai y plwyf, megis Monachdy a Ty Fair &co.
Deallwn yn ol hen lyfrau y byddid yn talu degwm y plwyf i Fynachlog Enlli.
Yr oedd yr Eglwys ar ffordd y pererinion i’r Ynys, a diamheu y byddai y
Mynachod yn fynych yn croesi drosodd i ymweld a’r gwahanol Eglwysi ydoedd
dan eu gofal ym Mhen Lleyn. Dywedir y byddai rhai ohonynt yn treulio
misoedd y gaeaf yn y plwyf; o leiaf fe geir hyd heddiw ddau ffermdy yn
agos i’r Eglwys yn dwyn yr enw Bodgaeaf – lle byddai y
Mynachod,
fe dichon yn preswylio yn ystod y gaeaf.
Yn y
darlun cyntaf fe welir yr Eglwys fel yr edrychai cyn yr adgyweiriad
diwddaf (1906) – Cawsom y lluniau trwy garedigrwydd Mr E.R. Williams,
Ysgol y Cyngor. – Bu yr Eglwys dan adgyweiriad mewnol rhyw 70 mlynedd yn
ol. Yr oedd y drws yn yr ochr ogleddol yr adeg honno, ond cauwyd hwnw i
fyny a thorwyd lle i ddrws yn y pen gorllewinol fel ag y mae ar hyn o
bryd. Mae rhai o’r hen bobl yn cofio am y drws yn yr ochr ogleddol. Mae
amryw ag ydynt eto yn fyw yn cofio myned i’r ysgol a gedwid yn yr Eglwys.
Mae’n debyg y cedwid yn yr hen Eglwys un o Ysgolion Amdeithiol y Parch
Griffith Jones, Llanddowror a Madam Bevan.
Mae amryw o’r plwyfolion yn cofio yr Eglwys fel ag ydoedd cyn yr
adgyweiriad 70 mlynedd yn ol. Yr amser hwnnw dywedir fod pren ar draws yr
Eglwys o’r naill wal i’r llall a adnabyddid wrth yr enw ‘Pren Pumtheg’.
Paham y gelwid ef felly nid oes neb a wyr.
Yn gerfiedig ar y pren yr oedd Oen a Chroes a Sarff a’i cholyn estynedig
allan. Fe ddiflanodd y ‘Pren Pumtheg’ yn amser yr adgyweiriad hwnnw, ac
nid oes gwybodaeth hyd heddiw pa beth ddaeth ohonno.
Hwyrach fod yma grog lofft wedi bod unwaith yn yr Eglwys, ac mai rhan
ohonni oedd oedd y ‘Pren Pumtheg’
Ond
erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheng yr oedd yn amlwg fod yr hen
Eglwys yn sefyll mewn gwir angen am adgyweiriad o’r newydd, ac amryw
flynyddoedd yn ol gadawodd boneddiges a hanai o hen deulu y Trygarn 100p
yn ol ei hewyllys tuag at ffurfio Cronfa er adgyweirio yr Eglwys. Ac yn y
flwyddyn 1903
pendefynnwyd o ddifrif i ymgymeryd a’i hadgyweiriad. Cymerai y diwddar Col
Wynne Finch (noddwr y fywoliaeth) ddiddordeb
neillduol yn y symudiad, ond er galar cyffredinol torrwyd ef i lawr yn
ddisymwth cyn gweled ohonno ddechrau y
gwaith, ond gwnaeth Mrs Wynne Finch ei rhan yn ganmoladwy trwy roddi pob
help a chalondid er cario y symudiad allan yn llwyddianus, a thrwy
weithgarwch a haelioni Col a Mrs Alan Gough, Gelliwig, trwy haelioni y
tirfeddianwyr sef y diweddar Mr Lloyd Edwards, Lady Reade, a charedigion
eraill, fel y diweddar, Mr Asseton Smith, Col Lloyd Evans, Broom hall, ac
eraill a thrwy gydweithrediad unol a gwresog a thanysgrifiadau caredig y
plwyfolion, o bob dosbarth, o Lan a Chaple, casglwyd yn fuan 800p.
Effaith hyn ydoedd tynnu lawr yr hen adeilad diaddurn, a welir yn y llun
cyntaf, bron hyd ei seiliau er cael adgyweiriad trwyadl. Fe gymerwyd gofal
tyner o’r hyn ydoedd werthfawr hen yn yr adgyweiriad.
Y
mae’r hen fedyddfan, yr hon sydd ar ffurf bedd yn aros o hyd yn olchfa yr
adenedigaeth. Y mae’r llestri cymun yn gwasanaethu yn newydd fel buont yn
yr hen er y flwyddyn 1574. Mae’r un allor yn gwasanaeth eto – ond wedi ei
hadgyweirio. Yn y mur, gerllaw y fedyddfan, y mae dau fwrdd hen, ac yn
gerfiedig y Credo, Gweddi’r Arglwydd, a’r Deng Air Ddeddf, yn yr iaith
gyffredin, yn nghyd ag amseriad eu hysgrifeniad, 1601.
Yn y
mur yn y gangell y mae dau fwrdd Coffadwriaethol, am hen deulu y Trygarn,
o’r hwn deulu yr hana Lady Reade, Llanfaethlu, Mon. Darllenant fel a
ganlyn –
~~~~~~~~
Herelyeth the body of Richard Trygarn of Trygarn, gentlm:
He
dyed March 1666
Aged
80 years; He had issue by his second wife Margaret
Daughter to Humphrey Lloyd of Rhogill fawr in
Fionydd, gentlem two sons Griffith&Herbert:
She
died about ye yeare 165 aged 45 yeares:
Herbert their son died 1662 aged 16 years
Both
interred underneath.
This
was erected by their son
Gruffyth Trygarn of Chester in remeberance of a
Deare and tender father and mother
And
loveing brother 1691.
Underneath lyeth the body of Gruffyth Trygarn
Of
Trygarn, g.n.
He
married martha, daughter to Richard
Edwards of Nanhoron;but noe issue
He
was buried from thence on Easter tuesday
1687
in or about 23 year of his age.
~~~~~~~~
Mae
ffenestri yr Eglwys bresenol ar ffurf Normanaidd ac wedi eu naddu o gerrig
chwarel Nevin. Mae yr hen dylathau derw yn aros eto ond wedi cryfhau;
maent yn brif nodweddion yr adeilad ac anaml y ceir ar hyn o bryd rai
tebyg iddynt: maent yn ganrifoedd o oedran a gallant bara eto am ganoedd o
flynyddoedd. Mae yr Eglwys wedi ei thoi yn daclus a llechi, o dan ba rai y
gosodwyd haen o ffelt a choed ffawydd o dan hwnnw; mae’r gwaith coed wedi
ei stainio yn wyrdd.
Mae y
pulpit o dderw goleu hardd; a derw hefyd ydyw eisteddleoedd y gangell.
Mae’r llawr wedi ei balmantu a blociau o dderw. Ychwanegwyd porch yn y
talcen gorllewinol – yr hwn sydd yn gaffaeliaid nid bychan ar ddrycin.
Ar ben
y clochdy mae Croes, wedi ei gwneuthr allan o un garreg o chwarel yn y
plwyf. Y mae yr Eglwys adgyweiriedig yn dystiolaeth i fedusrwydd y
cynllunydd, mr Harold Hughes, Bangor, a’r adeiladydd, Mr Robert Jones,
Bron Philip, Bottwnog.
Gwasanaethau Agoriadol
Cymerodd y gwasanaethau agoridaol le Awst 27 a 28, 1906. Ac fel a ganlyn
yr ysgrifenodd gohebydd amdanynt:-
‘Fel y
gellid meddwl, dyddiau o lawen wyl i’r plwyfolion yn gyffredinol ydoedd
dyddiau yr agoriad; llenwid eu calon a llawenydd yn nghanol y fath
amlygiadau o lwyddiant. Ar ddyddiau yr ail agor un em fawr oedd anian – y
bryniau o gwmpas mewn diwyg o rug blodeuog, y meusydd cyfagos mewn
gwisgoedd amryliw o adladd gwyrddlas, ac yd eurog, a’r haul o ganol y mor
o lesni yn gwenu yn ogoneddus, fel pe’n edmygydd o’r cyfan. Teilwng o’r
cwbl oedd y gwasanaethau gafwyd. Nos Lun 27ain cynfisol, y cynhaliwyd y
gwasanaeth cyntaf, pryd yr intoniwyd y Brydnawnol Weddi gan y parchus
Ficer, y darllenwyd y ddwy lith gan y Parchedigion J Wheldon Griffith,
Curad Llangian a Henry Lloyd, Ficer Aberdaron, ac y pregethwyd yn
neillduol Eglwysig gan y Parch Rt Jones, BA, Ficer, Glanogwen. Baich ei
genadwri oedd teyrngarwch i’r Eglwys ar sail cysegredigrwydd ei
hynafiaeth. Am naw o’r gloch y boreu dilynol, gweinyddwyd y Cymun gan y
Ficer, yr hwn a werthfawrogid gan y cymunwyr. Am ddau o’r gloch y prydnawn
y cyflwynwyd yr holl waith newydd at wasanaeth Duw gan Arglwydd Esgob
Bangor. Dygid y gwasanaeth hwn yn mlaen yn y ddwy iaith – Saesneg a
Chymraeg. Intoniwyd y Brydnawnol Weddi gan y ficer, darllenwyd y llith
gyntaf (Cymraeg) gan y Parch D Sinnett Jones, Rheithor Rhiw, a’r ail lith
(Saesneg) gan y Parch Ganon Davies, DG, Pwllheli. Ar derfyn y gwasanaeth
dynesodd y ddau warden hyd at gylch yr allor, i weld yr Esgob, pryd y
darllenodd un ohonynt, sef
Milwriad
Alan Gough, ysgrif yn gosod allan fanylion y mudiad, yn nghyd a gwahoddiad
ar i’w Arglwyddiaeth gyflwyno y gwaith newydd i wasanaeth y Drindod.
Cydsyniodd yntau a’r cais, gan ofyn bendith ar y gwaith a wnelid wrth y
fedyddfan, yn y pulpud a cher yr allor. Yna esgynodd yr Esgob i’r pulpud,
pryd y traddodwyd bregeth hollol addas i’r achlysur, gan ganmol y gwaith a
dymuno pob llwydd yn y dyfodol. Wedi dibennu y gwasanaeth hwn gwahoddwyd
pawb i de ydoedd wedi cael ei baratoi yn yr Ysgoldy gerllaw. Am chwech o’r
gloch dechreuwyd y gwasanaeth hwyrol, pryd yr intoniwyd y Brydnawnol weddi
gan y Parch DT Davies, MA, Ficer, Tydweiliog, a darllenwyd y ddwy lith gan
y parchus Ficer a’r Parch T Jones, BA, Ficer, Llangwnadl, ac y traddodwyd
pregeth werthfawr gan y Parch M Roberts, Ficer, Rhosybol, Mon. Prif fater
ei genadwri oedd ateb y cwestiwn ‘Paham yr ymgynullwn i Dy Dduw?’.
Chwareuid yr offeryn yn yr holl wasanaethau gan Miss Mary Herbert Jones,
L.R.A.M, Ficerdy, Llangwnadl, a chyflwynodd ei gwaith yn anrhydeddus.
Cynulleidfaoedd lluosog, tywydd hafaidd, canu calonog, cadgliadau
boddhaol, a phregethau addas, dyma’r pethau oeddynt yn nodweddu
gwasanaethau agoriadol Eglwys Santes Fair, Bryncroes, - HL.
~~~~~~~~~
Diolch yn fawr i Mr E
Evans am y llun 1905