Rywbryd dros bum mil o flynyddoedd
yn ôl, fe ddaeth pobl newydd i fyw i Ben Llyn. Y rhain oedd y ffermwyr
cyntefig, wedi cyrraedd tirlun oedd eisoes ym meddiant helwyr Oes y Cerrig.
I’r archeolegydd mae’r dystiolaeth o’r tro hwn ar fyd, o hela i amaethu,
yn un o drysorau hanes yr ardal.
Mae’r siambrau claddu o gerrig
mawrion, sef y cromlechi cadarn, yn gofeb i deuluoedd elite y
mewnfudwyr. Wrth edrych ar heneb Tan y Muriau, Rhiw mae negeseuon ynglþn
â defodau, peirianneg a phensaernïaeth y cyfnod yn adleisio’n glir.
Yn ogystal, i’r rhai sydd yn
ymddiddori mewn cynhanes y cyfnod Neolithig, o tua 4,000 – 2,000 CC ac ar
ddiwedd Oes y Cerrig, mae Mynydd Rhiw yn enwog. Hanner canrif yn ôl fe
wnaeth yr archeolegydd Christopher Houlder o’r Comisiwn Henebion yn
Aberystwyth ddarganfod ffatri ar gyfer creu bwyeill cerrig ar
ochr ogleddol y mynydd.
Eleni dyma archeolegwyr yn
cyrraedd unwaith eto: tîm o bump dan arweiniad Dr Steve Burrow o’r
Amgueddfa Genedlaethol a fu’n treulio tair wythnos yn mwynhau croeso
cynnes trigolion yr ardal, tywydd ffafriol mis Medi a llwyddiant wrth
gloddio ar lethrau deuheuol y mynydd.
Y dasg oedd ymchwilio i bant
artiffisial lle roedd craig arbennig yn dod i’r wyneb. Wrth agor twll hir,
cul a symud cannoedd o gerrig fe ddadorchuddiwyd y man lle roedd
chwarelwyr o’r Oes Neolithig wedi ennill carreg oedd yn addas ar gyfer
naddu offer. Mae’n rhaid bod nifer ymysg yr hen ffermwyr â gwybodaeth
helaeth o ddaeareg. Dim ond mewn rhai mannau yn unig yng Nghymru y ceir
cerrig
sy’n addas ar gyfer creu offer – offer oedd ei angen ar gyfer trin coed,
paratoi bwyd, hela ac amaethu.
I’r archeolegwyr o’r Amgueddfa, bu
rhywfaint o bendroni ynglyn â chymhlethdod daeareg y mynydd – ond fe
ddaeth pethau’n glir. Daethpwyd o hyd i gannoedd o ddarnau o garreg
folcanig wydn, gwydd ei lliw, sef sbwriel olion naddu oedd wedi hel fel
haenau yn y chwarel a agorwyd gan y ffermwyr cyntefig. Yn bwysig iawn
cafwyd olion llosgi pren, sef darnau mân o siarcol. Mi fydd dyddio’r
siarcol gyda thechnoleg carbon 14 yn gyfraniad arbennig i ddehongliad
newydd o weithio chwareli Mynydd Rhiw. Ar ddiwrnod olaf y gwaith, a phawb
yn hollol flinedig yn dilyn deuddydd o ail-lenwi’r twll, fe sylwodd
llygaid craff ar garreg ag iddi siâp hollol artiffisial. Dyma fwyeill o
5,000 o flynyddoedd yn ôl: syndod i ni, oherwydd dyma ganlyniad y broses o
agor chwarel – a beth tybed oedd y rheswm dros adael offer gwerthfawr
fel hyn ymysg y sbwriel ?
Ond i rai ohonom y wefr arbennig
oedd cwmni da plant o wyth ysgol gynradd yn yr ardal. Dros ddeuddydd bu
egni’r archeolegwyr ac olion gweithfeydd yr hen ffermwyr yn her i’r
Prifardd Iwan Llwyd a’i ddisgyblion newydd, felly dyna gysgodi ger
wal y ffridd i ganu cerdd a dychmygu’r hen fyd ar y mynydd.
Claddu'r Cerddi
Carem ddiolch i’r Ymddiriedolaeth
Genedlaethol am ganiatâd i gloddio; i’r Academi am noddi’r bardd; i’r
athrawon a phlant yr ysgolion a ddaeth i ben y mynydd i ymuno â’r prosiect
unigryw hwn; hefyd i drigolion yr ardal, yn enwedig Gwenllian a Tony
Jones. Gobeithio y cawn ddod yma eto i ddarganfod rhagor o hanes ein
cyndeidiau.
Kenneth Brassil,
Swyddog Addysg Archeoleg,
Amgueddfa Cymru.