Ffatri Fwyelli Mynydd Rhiw

Medi 2006

Yn ystod y tair wythnos ddiwaethaf mae archaeolegwyr o’r Amgueddfa Genedlaethol wedi bod yn cloddio yn un o’r ffatrioedd bwyelli Oes y Cerrig sydd i’w cael ar Fynydd y Rhiw. Mae’r gloddfa yma wedi ei leoli ar yr ochr ddwyreiniol o’r mynydd yn wynebu bae Porth Neigwl a mynydd Garn Fadryn a chopaon y Eryri a mynyddoedd Meirionydd i’w gweld oddyno.

Pennaeth y prosiect arbennig yma oedd y Dr Steve Burrows. Un o’r prif resymau dros gloddi’r fan arbennig yma oedd i ddarganfod golosg (charcoal) er mwyn dyddio’r safle. Ac yn cydweithio a Dr Burrows roedd Dr Ken Brassil. Roedd Dr Brassil yn ogystal a gweithio ar y safle wedi  cysylltu a chydlynu efo ysgolion lleol ac wedi trefnu iddynt  ymweld a’r safle. Arwahan i gyfarfod y criw oedd yn cloddio a chael golwg manwl ar y lle, roedd y plant yn cael dipyn bach o hanes gan y Prifardd Iwan Llwyd ac yn cael cyfle i gyfansoddi cerddi. Ysgrifennwyd y cerddi ar gerrig o’r gloddfa, dwy garreg i bob ysgol, un i’w ddychwelyd i’w fan gwreiddiol a’r llall i fynd efo nhw i’r ysgol i gofio am eu profiad arbennig. Bellach mae’r prosiect wedi dod i ben a’r gloddfa wedi ei chau a’i dychwelyd yn ol i fynwes y mynydd a chyn hanes.

Mae Dr Steve Burrows wedi gaddo gyrru adroddiad i ni ar ganlyniadau’r cloddio ac fe gym hyn dipyn o amser gan y bydd yn rhaid profi’r samplau a chasglu’r holl dystiolaeth at i gilydd cyn y bydd i’r archaeolegwyr a ninnau wybod sut yr pobol Oes y Cerrig yn cyflawni eu gwaith yma ar Fynydd y Rhiw.

Mi hoffen ni ddweud gair o ddiolch yma i’r criw am eu croeso cynnes bob tro ymwelon ni a’r safle ac am eu parodrwydd i egluro eu gwaith i ni a phawb arall fu’n ymweld a’r safle dros y dair wythnos ddiwaethaf. A gobeithio na fydd hi’n rhy hir cyn i  ni eu gweld eto yma yn datgelu mwy o’n cyn hanes i  ni.

**********

Medi 20fed a 21ain, 2006

 

Ysgol Crud y Werin, Aberdaron

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Prifardd Iwan Llwyd

~~~~~~~

Heibio i Drwyn Cilan i Borth Neigwl,

A Garn Fadryn yn edrych i lawr.

Ar ein cychod bychain yn cyrraedd

Drwy’r llanw a’r tonnau mawr.

 

Yna ei chychwyn i ben y mynydd

I gloddio am y cerrig cryf,

A’i naddu yn fwyell a chyllell

I glirio’r tir ac i godi tŷ

                     Ysgol Tudweiliog

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Llidiardau

 

 

.

22-9-06

Diwrnod ar ol cau y  gloddfa.

 

Crud y Werin

 

***********

Diolch i Dr Steve Burrows, Dr Ken Brassil, a'r Prifardd Iwan Llwyd.

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com