Eglwys St Aelrhw

Eglwys St Aelrhiw – o Eglwysi a Plwyfi Lleyn 1910.

Adeiladwyd  Eglwys gadarn Rhiw, gyflwynedig i St Aelrhiw, ar sail yr hen eglwys yn y flwyddyn 1860. a chasglu oddiwrth nodiad a geir mewn hen lyfr sydd ym meddiant un o’r plwyfolion, yr hwn nodiad sydd fel y canlyn.

“Testun yr Esgob ar yr achlysur o ail agoriad Eglwys Rhiw ar y 19eg o Fawrth 1861 am 11 y boreu, oedd Zec. 1V. 7. Gwasanaethai y Parch Williams, Tydweiliog, am 4 o’r gloch y prynhawn.”

Mae yr adeilad ar lun croes, fel y gwelir yn y darlun, a chynnwys eisteddleoedd ar gyfer 150. Y mae y ddau Transept, y rhai sydd yn llawer hwy na’r Nave, yn cyfeirio y naill i’r gogledd ddwyrain a’r llall i’r de orllewin. Y mae drws yr Eglwys ar yr ochr ogledd ddwyreiniol i’r Nave. Oddifewn i’r Nave yn y cwr de ddwyreiniol, y mae’r allor (Bwrdd Cymun). Ac mae’r Pwlpud a’r Ddarllenfa un ymhob ochr, o fewn pedair troedfedd i’r allor. Y mae’r fedyddfaen yn y cwr gogledd orllewinol iddi. Yn y cwr gogledd ddwyreiniol i’r Transept mae y festri. Yno cedwir hen gist dderw gadarn a gynnal y Coflyfrau a’r llestri cymun – cwpan a chaead arni., paten (plated), a ‘water pillar vase’.

Y warden eglwysig yn y flwyddyn 1672 ydoedd Frederick Wynne, Ysw, un o hynafiaid Arglwydd Newborough. Anrhegodd yr eglwys a chwpan arian (chalice) ar yr hwn y mae yn gerfiedig y geiriau canlynol :- ‘Rhiw. This was provided by Frederick Wynne, Warden, A.D. 1672’. Yr oedd hyn ddwy flynedd cyn marwolaeth ei briod, pumed ferch ac etifeddes Thomas ap Richard, Gent, Bodwyddog. Nid yw y cofnodion hynaf ar y Coflyfrau ymhellach yn ol na’r flwyddyn 1779.

Ficeriaid.

Y mae dau Offeiriad y Plwyf wedi eu claddu yn y fynwent, - y Parchn. Jacob Davies 1778, ac E Rees 1811. Merch i’r diweddaf oedd priod Mr Owen Hughes, Trygarn, ac a fu farw 1821. Y Rheithor diweddaf oedd y cerddor enwog Eos Llechyd.

Llechres o Ficeriaid y Plwyf oddiar 1661 :-

Owen Owen, 1661.

Hugh Jenkins, 1671.

Lewis Price, 1692.

Robert Wynn, 1705.

William Evans 1712.

Edward Edwards, 1714.

Maurice Roberts, 1730.

Richard Thomas, 1736.

Jacob Davies, 1772 – 1778.

Evan Rees, 1779 – 1811.

William Ellis, 1811 – 1830.

John Hughes, 1830 – 1836.

Henry Richards, 1836 – 1837.

Griffith roberts, 1837 – 1868.

Thomas Hardy Richards, 1868 – 1888.

Owen Davies (Eos Llechyd) 1888 – 1895.

David Sinnett Jones, 1895 – 1919.

Maen Cof.

Oddifewn yr Eglwys, yn y Nave ogleddol, mae maen cof, gydag arf bais a’r geiriau canlynol wedi eu torri arno :-

‘Here lieth the Body of Lowry The Fifith Davghter And Heiress of Thomas Ap Richard of Bodwythog Gent; and the Wife of Frederick Wynne; She Died The 8th Avgvst Anno Diu, 1674 and Also Ye Body of Ye Said Frederick Wynne The Sonne of John Wynne of Bodvean Died .........

Y Plwyf.

Y mae y Plwyf yn ddwy filltir a hanner o hyd ac yn filltir a hanner o led yn y man lletaf. Gorchuddir ei ganol gan fynydd yn rhedeg o’r gogledd ddwyrain i’r de orllewin. Ar ran ddeheuol y mynydd y mae dau o weithfeydd manganese – y ‘British’ a’r ‘North Wales’ – yn rhoi gwaith i ddau gant o bobl. Y mae miloedd o dunnelli wedi eu hatgludo er 1901.

Y mae arwynebedd y Plwyf yn 1,300 o aceri. Ar lethr deheuol y mynydd yn agos i draeth Porth Neigwl, y mae Cromlech fawr, 15 troedfedd wrth 8 troedfedd; hefyd hen felin ddwr – yn awr yn adfail.

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com