Trwy Gil y Drws
Rhaglen Radio Gan
Bysgotwyr Aberdaron.
Dydd Sadwrn, 29ain, Mehefin, 1946.
Yn Aberdaron y’n ceir, wel pen
draw byd chwedl pobl, y pentref bach taclus, del, sydd yn nythu yng
ngwaelod yr allt ar lan y mor, heb ei andwyo er yn gofalu am ymwelwyr yn
ystod misoedd haf mewn cwmffwrdd ac ymborth.
Y mae’r mor yn dawel ac ni
chredech y gallai ysgythru dannedd a chreu cynnwrf, malu a rhwygo cychod a
thaclau pysgota a pheryglu bywydau a charcharu trigolion Enlli am
wythnosau rai yn y gaeaf, ac weithiau adegau eraill hefyd. Heno dyma ni
yng nghwt pysgotwyr Aberdaron. Mae’r pysgotwyr yma yn paratoi i fynd allan
heno i osod ac ymweld a’r cewyll cimwchiaid.
Ar fin mynd allan Tomos Glyn?
T.Glyn: Wel ia, tasa ni yn cael
gorffen paratoi y cewyll yma, bu i’r teid fynd a rhai o’n cewyll neithiwr.
T.O.W.: Cewyll go dda hefyd, pwy
wnaeth rhain.
H.Parri: Wel, mae pob un ohonom a
rhan ynddynt yn cydweithio a’n gilydd.
T.O.W: O felly, rhai crwn fyddwch
yn ei wneud bob amser.
E.Griffith: Ia, mae yma rai fel
pysgotwyr Enlli yn defnyddio cewyll Frenchman fyddwn ni yn eu galw.
T.O.W: Pa fath o gewyll ydyw
rheini, ydyn nhw yn gwahaniaethu llawer oddiwrth rhain.
E.Griffith: Rhai hir tebyg i
gasgen a tyllau yn y talcennau fel trap llygod mawr, wedi eu gwneud a
gwiail yn ffyn, neu asennau ffurfion a gwiail ysgafn neu weiren wedi eu
plethu o gwmpas iddynt. Rhyw Lydawiaid ddaeth i bysgota i’r bae yma rhyw
bymtheng i ugain mlynedd yn ol, ac fe gawsom sgwrs a nhw ond toeddan nhw
ddim yn cael fawr o hwyl arni ac yn methu deall sut yr oeddem ni yn dal
nes gwelsont ein cewyll, ac wedyn bu iddynt ddefnyddio y rhain wedyn.
T.O.W: Rhoswch chi, mi rydw wedi
sylwi fod gennych yma deip o gewyll sef rhai crwn, cryf o wead pleth fan
a’r twll sydd yn drap ar y top, tasa ni yn eistedd arno fyddai ddim
gwaeth.
Mae gwahaniaeth yn y cewyll a
wneir gan bysgotwyr Amlwch, ond oes ‘na?
E.Griffith:Ma’ nhw yno yn gwneud
cewyll yr un siap ond llacach gwead a mwy o faint, hefyd yn defnyddio
gwiail ieuengach na ni yma. Mae cylch Caergybi cylch Llandudno a’r glannau
eraill yn defnyddio rhai oblong tebyg i drapiau llygod mawr.
T.O.W : Oes gennych chwi ffurf
draddodiadol neu rhyw resymau arbennig dros wneud cewyll fel hyn?
E. Griffith: Y rheswm fod ni yma
yn gwneud cewyll crwn cryf fel hyn yw na wnaiff unrhyw deip arall y tro yn
y teitiau mawr, achos yr ydym yn eu rhoddi mewn teitiau a chyflymder o
bedair i chwe milltir yr awr.
T.O.W: Nid wrth y creigiau
fyddwch chi yn gosod cewyll felly?
E. Griffith : Na allan yn y mor
oddiwrth y tir.
T.O.W: Pa wiail ddefnyddiwch Tomos
Glyn?
T Glyn: Helyg llwydion dwy flwydd
oed.
T.O.W: Lle ydach chi yn eu cael?
Digon o fewn cyrraedd debyg?
T. Glyn: Na, dyna’r drwg, ‘rydan
ni yn gorfod mynd cyn belled a’r Borth a Rhosfawr i’w torri gan nad oes
rhai yn nes adref ac mae yn golygu dipyn, digon o waith i ni dorri am ddau
neu dri diwrnod caled ac wedyn cael lori i’w cyrchu adref.
T.O.W: Os gynnoch chi broses
arbennig i’w trin debyg, Evan Williams. Yadach chi yn hen law arni?
E Williams:Mi fyddwn yn torri
cyngynted a bydd y dail wedi cwympo, ac yna yn dod a nhw adref a’u cadw
allan i gynaeafu mewn lle llaith am rhyw dri mis cyn cyffwrdd a nhw.
T.O.W: Fyddwch chi ddim yn gadael
y gwiail i gynaeafu yn y lle y tyfant fel y gwneir a choed at bwrpas
neulltuol.
E.Williams: Na, dim ond gofalu fod
y gwiail yn eu bwndeli yn cael eu cadw rhag sychu gormod er mwyn i chwi
fedru eu trin, os sychant ormod mi holltant ac wedyn mae yn gwdbei Wales i
wneud dim ohonynyt wedyn.
T.O.W: Ond mae yn debyg fod yn
rhaid i chwi eu gwlychu a’u trin cyn gallwch wneud y bleth a’i gweu i mewn
yn y cawell.
E.Williams: Na dim o gwbl ond eu
defnyddio rywle tua Ionawr ymlaen fel byddwch yn barod at y gwaith.
T.O.W: Pa wiail fyddwch yn eu
defnyddio?
E.Williams: Helyg llwydion.
T.O.W: Mae’na wawr goch ar y
cawell yma, sut y cawsoch y lliw yma, a pam newid lliw y gwiail.
E. Williams: Ar ol gorffen cawell
mi fyddwn yn ei roi allan yn yr haul am tua bythefnos ac yna mi newidith
ei liw i’r lliw brown goch yma.
TO.W: Wel beth ydyw eich rheswm
dros hynny?
E.Williams: Wel o osod y cewyll yn
y dwr os na chewch chwi gewyll o’r un lliw a’r gwymon a thyfiant eraill
a’r creigiau ddaliwch chi ddim lobstars.
T.O.W. Mi faswn i yn barnu fod y
gwiail sydd yn ffyn i’r cawell yn dair oed o’i gymharu a’r lleill.
E.Williams: Ydyw mae rheina yn
gryfach, a rhaid i chwi gael ffram go dda.
T.O.W: Pam ydach chi yn plethu y
tresi o gylch cawell mor glos, achos mae rhai chi lawer mwy agos i’w
gilydd na rhai Amlwch.
T.Glyn: Rhaid i chi gofio mai
creadur busneslyd ydyw y lobstar, nid am yr abwyd mae o yn mynd i’r cawell
ond er mwyn gweld beth ydyw a beth sydd ynddo.
T.O.W: Chewch chi fawr o nifer yn
y cawell yma.
T. Glyn: Mi synach, mi gewch
rhywle o un i wyth ynddynt bob tro ac weithiau mi gewch un wedi ei ladd.
T.O.W: Wedi ei ladd, diar bach,
gan beth felly?
T.Glyn: O lobstar arall, os
digwydd iddi fynd yn ymrafael rhwng dau lobstar yn y cawell mae un yn siwr
o golli treial, ac mi ddengith y llofrudd allan bob tro, fedrwch chi byth
i ddal o.
T.O.W: Ydyw hynna yn nodweddiadol
o bob llofrudd wedi’r cyflawniad. Wedi i chi godi’r cewyll a chael dalfa
wael neu i aros nes y byddwch yn barod i’w danfon i ffwrdd, beth fyddwch
yn ei wneud a’r lobstars?
T.Glyn: Wel eu rhoi yn y cawell
cadw....... Aros di, tu ol iti yn fanna Huw mae na un, ia estyn o..... fe
welwch y gwahaniaeth.
T.O.W: Wel yr wyf yn sylwi fod hwn
lawer mwy na’r lleill, pam yr ydach chi yn gwneud y gwead gymaint yn nes
at eu gilydd, ac mor eithriadol dyn tua’r top Huw Parri?
H.Parri: Cawell cadw ydyw hwn a
phan gofiwch y gall nifer go fawr o lobstars fod ynddo am ddyddiau ac yn
naturiol yn crafu am gael twll diangfa, hefyd eu rhoi i lawr yn y dyfn,
mae eisiau tair rhaff i’w rhwymo wrth y gwyneb heblaw cortynnau i ddal y
pwysau i’w cadw i lawr ac yn sefydlog yn y teitiau, ac mae yn rhaid cael
cryfder i ddal caead gan mai cawell cadw yw hwn rhagor na’r lleill.
T.O.W: Wel, William Evans, pa sort
o gewyll ydach chi yn ei wneud a’u defnyddio yn Enlli acw?
W.Evans: Wel, yr un fath a’r
rhain, crynion helyg llwydion, dwyflwydd oed ac weithiau yn defnyddio cyll
i wnued asennau, gan ein bod ni yn Enlli yn gorfod gosod ein cewyll yn y
dyfnder allan yn y mor ‘run fath a hogia’r tir mawr, ac mi rydan yn gosod
cewyll Frenchmen wrth y creigiau, fwy felly at grancod na lobstars. Yr un
ydyw amodau pysgota i ni yn Enlli ac ydyw i’r hogiau yma.
T.O.W: Ydach chi yn tyfu gwiail at
eich iws yn Enlli debyg?
W. Evans: Na, dim rwan. Pan fyddai
y ffermydd a’r tai yn llawn yn Enlli mi fyddai yna ddeuddeg o blanhigfa o
ddeutu’r afon sydd yn rhedeg ar hyd yr ynys, a digon o wiail ar gyfer
pawb, ond mae rheini wedi mynd yn fler iawn, neb yn edrych ar eu hol, ac
wedi tyfu yn fawr ac yn ddiwerth, a does gennym ond cael rhai o’r tir mawr
gan yr hogia yma.
T.O.W: Faint ohonoch sydd wrthi yn
gwneud cewyll ac yn pysgtoa acw?
W.Evans: Mae pob un ohonom yn
medru gwneud cewyll, ond pedwar sydd yn pysgota yn gyson a mae rhaid bod
yn ofalus iawn fod y cewyll yn ddigon cryf i ddal y cyrent.
T.O.W: Sut mae hefo chi tua’r
Borth y rhan uchaf yna Huw Williams.
H. Williams: Yr un cewyll sydd
gennym ninnu hefyd wrth sgwrs, ond gan fod ni yn gosod tua’r gogledd i
gyfeiriad Whistling Sands mi fyddwn yn colli’r cewyll yn y fan yna. Mae’r
teidiau yn wahanol, wrth i’r teidie fynd allan rydan ni yn colli ein
cewyll ond wrth ddod i fewn y collir y cewyll yn y rhan isaf yma yn cael
eu gyrru yn erbyn y creigiau a’u malu yn dipiau.
T.O.W: Mi fyddwch yn dadlau o
blaid cael cewyll cryf iawn felly, fel y pedwar pardner yma.
H. Williams: O byddwn, a chryfach
os yn bosibl ond y drwg ydyw mae gwiail tair oed yn mynd yn rhy galed ac
anystwyth i’w trin.
T.O.W:Wel, ydach chi ddim yn
meddwl y byddai o fantais i chi sydd yn byw ar y gelfyddid o wneud cewyll
a dal pysgod, gael planhigfa ‘Willow Plantation’ at eich galwad, deudwch
dyweder eich bod yn cael rhyw bedair i bump acer o dir ac yna ei drin,
plannu y coed a’u trafod yn ystod y flwyddyn wrth sgwrs fel rhyw gynnyrch
tir arall mi fyddai llawer gwell i chi.
H.Williams: O byddai mantais fawr
fyddai, ond lle cewch chi le.
E.Griffith: Mae eisiau tir gwlyb
ar gyfer tyfu gwiail gwlybach o lawer na sydd gennym ni.
T.O.W: Ddim o angenrheidrwydd.
Rhaid i chwi gael tir llaith wrth gwrs, mae rhai pobl yn credu fod yn
rhaid cael dwr o gwmpas gwreiddiau y coed o hyd am mai o gwmpas afon y
tyfant fwyaf.
T.Glyn: Wel, deudwch ein bod ni yn
awyddus i gael lle ac yn barod i symud ymlaen, oes posib cael rhyw help at
gael tir, ac wedyn cyfarwyddid priodol sut i ofalu am blanhigfa.
T.O.W: Fe ddibyna hynny i raddau
helaeth arnoch chi eich hunain yma, fedrach chi ledu eich busnes fel ag i
roi bywoliaeth i ragor o ddynion yn y cylch yma ar y gwaith o ddal pysgod,
‘toes dim prinder pysgod mae’n debyg.
E. Griffith: Faint fynnoch chi o
bysgod, ond cael celfi ar eu cyfer – cychod, cewyll a marchnad, ar hyn o
bryd
eu gwerthu yn lleol ym Mhwllheli y byddwn ond mi fderwn eangu wrth sgwrs.
Mae yn eithaf bywoliaeth.
T.O.W; Wel mi allaf eich sicrhau
fod cynorthwy i’w gael mewn hyfforddiant ar gyfer plannu coed a thrin y
tir a thrafod y gwiail yn rhad, a chynorthwy mewn marchnada os byddai
raid, ac ni fyddai yn anodd gwneud cais drosoch am help mwy ymarferol.
Mi fyddwch yn dal pysgod eraill
mae’n debyg.
H.Parri: Byddwn tad, hefo’r
lobstar mi fyddwn yn dal Siacen Goch ‘Crayfish’ a chrancod, a mi welwch
bethau rhyfedd iawn weithiau yn y cewyll. Mi fyddwn yn dal mecryll a
phenwaig wrth y fil ar ein ffordd adref oddiwrth y cewyll.
T.O.W; Mi rydan yn gyfarwydd a
therm Penwaig Nefyn ond nid cymaint am Benwaig Aberdaron. Wel beth amdani
cael ‘Canning Factories’ i Ben Lleyn fel sydd yn Aberdaugleddyf neu
Fleetwood ac wrth hynny helpu i drefnu gwaith i ragor o bobl a’u cadw yn
Lleyn lle bod y bobl yn gadael y cylch ac wrth hynny adfer y posibilrwydd
o gychwyn diwydiant newydd sydd yn nodweddiadol o’r cylch a’i drigolion ac
mae gennych chwi y cyfle i ffurfio cnewyllyn da iddo.
T.Glyn: Wel mi fedrai i siarad
dros pob un ohonom ein bod yn barod i gydymffurfio ac unrhyw fudiad tuag
at ychwanegu at werth ein gwaith at storfa fwyd y wlad.
T.O.W: Wel, mae yn werth i feddwl
amdano.........