Hanes ail agor Eglwys
St Hywyn, Aberdaron, Gorffenaf 10fed, 1906. Allan o'r llyfr "Hanes Eglwysi
a Plwyfi Lleyn"
Mewn
ysytyr hanesiol saif plwyf a phentref Aberdaron bron yn ddi gymhar yng
Nghymru. Yn y plwyf ceir ddiffynfa Rufeinig, Mynydd Ystum, ar lethr yr hwn
y safai unwaith Capel Odo; is law iddo i gyfeiriad arall, y mae adfail
bwthyn yr hynod Dic Aberdaron. Ym mhen eithaf y plwyf, i gyfeiriad y
gysegredig Enlli, y mae fferm Cwrt, lle
unwaith y cynhelid llys barn, ac heb fod nepell oddiyno mae Afon saint. Ar
gwr eithaf y plwyf, uwchben y weilgi, y mae olion hen Eglwys Fair, o’r lle
y croesid i’r Ynys enwog sydd ar ei chyfer. Y mae y plwyf yn orlawn o’r
dyddorol i’r hanesydd. Nid llai enwog y pentref mewn ystyr hanesiol, canys
yma, ar lan traeth, mewn agosrwydd enbydus i’r mor saif yr hen deml
orewch, a sefydlwyd yn y chweched ganrif gan yr Esgob Hywyn o Ynys Enlli.
Yng
nghorph y canrifoedd gwelodd lawer tro ar fyd, a bu yn ysglyfaeth i
ddialedd llawer gelyn a chafodd ei difrio a’i darostwng gan fytheuaid
anwaraidd
Oliver Cromwell. Ond y mae yr hen deml yn aros, er gwaethaf mor a gelyn.
Ac amlwg yw mai aros wna, canys yn ystod y misoedd diweddaf y mae wedi bod
tan oruchwyliaeth adgyweiriad a glanhad, ac erbyn heddiw y mae yn
brydferth a hardd, gogyfer ag anghenion ysprydol y plwyf.
A
dydd Mawrth, Gorph 10fed, 1906, buwyd yn ail agor yr hen Eglwys gyda
gwasanaethau arbenig. Gan fod yr hin mor ddymunol daeth tyrfaoedd ynghyd,
yr oedd ffrwyth olaf dadblygiad y ganrif bresennol yno yn
gwasanaethu mewn rhwysg – Y Motor Cars a’r Motor Bus – megis i dalu parch
i adeilad a welodd Gristinogaeth ein gwlad yn ei babandod. Cynhaliwyd
y gwasanaeth cyntaf tua hanner dydd, mewn estronol iaith. Intoniwyd y
Foreol Weddi gan y Parch T.E.Owen, BA,
Rheithor Botwnnog, darllenwyd y ddwy lith gan y Parchedigion T.E. Sheppard
Jones, Ficer Llanor a DT Davies, MA, Ficer Tudweiliog; a thraddodwyd
pregeth addas i’r achlysur gan y Gwir
Barch.
Esgob Bangor yn seiliedig ar hanes arosiad
yr Apostl Pedr yn Joppa i Gristnogaeth y Dwyrain, a gwasanaeth Aberdaron i
Gristnogaeth Cymru. Ar ol y bregeth gweinyddwyd y Cymun, pryd y
gwasanaethid gan yr Esgob, yn cael ei gynorthwyo, gan y parch H J Manley,
Rheithor Llanbedrog. Wedi’r gwasanaeth hwn, gwahoddwyd y clerigwyr, a
bonheddigion eraill, i ‘luncheon’ ardderchog, trwy garedigrwydd Mr a Mrs
Carreg, Carreg Plas. Am dri o’r gloch, intoniwyd y Litani yn Gymraeg gan
ficer Llannor; a thraddodwyd pregeth afaelgar gan y Parch H Lloyd, Ficer,
Aberdaron. Mater ei bregeth oedd Crist fel Brenin yr Eglwys. Ar ol y
gwasanaeth hwn, trwy garedigrwydd yr un boneddwr a’i hawddgar briod,
cafodd y clerigwyr ac eraill de campus. Am 6.30, dechreuwyd y gwasanaeth
hwyrol, pryd yr intoniwyd y Brydnawnol Weddi gan Ficer parchus Botwnnog;
darllenwyd y ddwy lith gan y Parchedigion J Wheldon Griffith, Curad
Llangian, a Hugh Lunt, Curad Bodferin, a phregethwyd yn huawdl a thanllyd
gan enwog
Ficer Abererch, Y Parch D.Jones BA (Efrog). Prif fater yr efengylydd oedd,
doethineb meddu cymeriad wedi ei adeiladu ar y Graig. Chwareuwyd yn fedrus
yn yr holl wasanaethau gan Miss Mary Lloyd, Ficerdy, Aberdaron.
Cafwyd
casgliadau campus, yn cyrraedd y swm anrhydeddus o £20. Yn y gwasanaeth
hwyrol yr oedd yr Eglwys yn orlawn, yr addoliad yn ddwys a’r gwrandawiad
yn astud.
Y mae
yr anrhegion canlynol wedi eu rhoddi gan y galarus er cof am eu marw: y
mae Cadair enfawr ger yr Allor, wedi ei rhoddi er cof am y diweddar Edward
T Carreg, Ysw; Carreg Plas, gan ei fam a’i chwaer. Y mae ‘Stallis’ hardd
sydd yn addurno y Gangell yn gof arwydd i’r diweddar Thomas Langton Hugh
Lefroy, MA, DL, Carrig Glas Manor, Langford, gan ei weddw, Mrs Lefroy. Y
mae y Scillian Marble sy’n prydferthu esgyniadau y Gangell yn farmor cof
am y diweddar Agnes Winifred McCowan.
Yn
sicr mae plwyfolion Aberdaron yn ddyledus iawn i deulu hynaws Carreg Plas
am eu llafur a’u hymdrech yn eu gwaith canmoladwy o gychwyn y mudiad a
goronwyd a’r fath lwyddiant. O’r byd arall daw diolch mab, diolch brawd a
diolch cyfaill; - hyn oedd dymuniad olaf Mr Edward Carreg. Boed hedd i’w
lwch ar lan y don.
~~~~~~~~~~
|

Offeiriad Plwyf Aberdaron
ers 1906
~~~~~~~
Parch Henry Lloyd
Parch Francis Dinnis
Parch Thomas Edward Owen
Parch William Walter Jones
Parch John William Jones
Parch William Hugh Williams
Parch W Emrys Edwards
Parch W Artro Evans
Parch William Jones
Parch R.S, Thomas
Parch Robert Williams
Parch Christopher Armstrong
Parch Evelyn Davies
~~~~~~~~~ |