Rhiw yn 1886

Ganwyd fy hen nain Catherine ar Chwefror 28ain, 1879 yn Benallt Bach ar lethrau gorllewinol Rhiw, uwchben fferm Bodwyddog Fawr. Yno hefyd y trigai ei rhieni a’i dau frawd. Yn ol cyfrifiad 1881 yr oedd ei mam Ellen yn weddw. Mae’n sicr fod bywyd yn galed iawn i Ellen druan, dim ond 34 oed a tri o blant bychain i’w magu William 7, Owen 5 a Catherine bach. Yn yr oes honno doedd dim budd dal i’w gael o’r unman ac felly roedd rhaid i deuleuoedd tlawd ddibynnu ar gymdogion da, a’r eglwys, lle byddai gwaddol i’w gael ar gyfer tlodion y plwyf. Byddai’n rhaid iddynt chwilio am waith ar ffermydd, fel gweision neu forwynion am ychydig geiniogau i fwydo a dilledu eu plant a dyna yn union fu raid i Ellen wneud.

Bob dydd Sul ai Ellen a’r tri phlentyn i’r cwrdd i Gapel Nebo. Erbyn 1885 roedd y plant wedi ymuno a’r ‘Band of Hope’ a gynhelid bob nos fawrth. Cymdeithas dirwest i blant  y dosbarth gweithiol oedd y ‘Band of Hope’ gafodd ei sefydlu yn Leeds yn 1847. Chwech oedd yr oed y cai’r plant ymuno ac roedd yn rhaid iddynt addo ymwrthod yn llwyr a diod feddwol, yn ystod y cyfarfodydd caent weddio, canu a chael straeon am beth ddigwyddai pe baent yn ceisio’r ddiod feddwol felltithtiol. Mynychwyd y cyfarfodydd hyn gan bron bob plentyn yn y pentref. Ar un nos fawrth yng ngaeaf 1886 a’r cwrdd wedi dod i ben aeth y plant a’r oedolion allan o’r capel am tua 7 o’r gloch. Yno yn aros am eu plant roedd llawer o’r rhieni, ac roedd dipyn go lew o bobl yn siarad ac yn sgwrsio tu allan i’r capel bach ar y noson glir oer honno yn 1886.

I’r gogledd ddwyrain o gyfeiriad Garn Fadryn sylwodd rhywun fod golau yn isel yn yr awyr. Fel y daeth y golau yn nes, tawodd swn y siarad a trodd pawb eu golygon at yr ‘Ysbryd’ yn yr awyr oedd yn dod yn nes ag yn nes atynt. Wrth iddo  basio yn yr awyr i’r gogledd orllewin iddynt, disgrifiodd Catherine yr ‘Ysbryd’ fel bod yn debyg i Olwyn Drol fawr, gyda goleuni llachar o’i gwmpas a goleuadau yn llewyrchu yn ei ganol. Fe gymerodd y goleuni yma oddeutu pum munud i fynd o’r golwg dros Enlli ac am y gorllewin.

Heddiw pe bae criw mawr o bobl fel ag yr oedd tu allan i Gapel Nebo yn 1886 yn gweld goleuni o’r fath yna mi fyddai’r dadansoddi a’r darogan amdano yn dra gwahanol i beth yr oedd fy hen nain a’i ffrindiau yn wneud. Fe fydde ni yn son am gynlluniau cudd gan y llywodraeth neu‘r Americanwyr neu Rwsiaid. Fyddai ddim yn amhosib eu bod wedi datblygu awyren newydd tebyg i’r ‘stealth fighters’ a’r ‘bombers’oedd yn fflio o gwmpas yn bell cyn i’r cyhoedd gael gwybod am eu bodolaeth yn swyddogol. Ond yn 1886, pedair mlynedd ar ddeg cyn i Count Zeppelin gymeryd i’r awyr yn ei long awyr am y tro cyntaf a llwyddo i gylchu cae cwpwl o weithiau cyn i’r llyw dorri. Doedd na ddim yn y ffurfafen ond beth oedd gan natur i’w gynnig. Ac o’r herwydd allai neb yn eu byw fod wedi gwneud disgrifiad o’r math yma, gan fod  y nen yn diriogaeth i’r lleuad a’r ser ac adar bach a mawr.  Roedd hi’n 1947 cyn i’r term ‘Flying Saucer’ ddod i fodolaeth, felly yn 1886 roedd y disgrifiad o Olwyn Drol yn un addas iawn.

Beth oedd Catherine fach a gweddill pobol Rhiw wedi ei weld ar y noson oer honno gant ac ugain o flynyddoedd yn ol. Mae un peth yn saff naethon nhw ddim ei gam gymeryd am awyren neu loeren, gan nad oedd y fath bethau yn bod yr adeg honno, dwi  ddim yn meddwl mai seren wib oedd o chwaith, gan ei fod yn symud yn rhy araf ac mi fyddai seren wib wedi diflannu dros y gorwel mewn eiliadau yn hytrach na munudau. Un peth sydd yn sicr mi welodd fy hen nain rywbeth yn yr awyr y noson honno, fel ag y gwnaeth y gweddill oedd tu allan i Nebo, rhywbeth a ddisgrifiodd hi fel Olwyn Drol, a rhywbeth nad anghofiodd hi. Beth yn union oedd o? Wel allwn ni ddim ond dychmygu, ac efallai rhywbryd y daw yr ateb allan o hanes, pwy a wyr.

**********

Ol Nodyn. Dwi wedi dyfalu llawer ym mha ran o rhiw.com i roi yr hanes yma, Chwedlau ? Hanes? Ond i Hanes Rhiw mae o yn mynd yn diwedd, oherwydd fanno mae ei le priodol.

Ydych chi wedi clywed am hanes tebyg gan eich teulu, neu ydych chi wedi gweld rhywbeth yn yr awyr dros Llyn na allwch ei esbonio. Gadewch i ni wybod, mi fyddai yn ddiddorol ac efallai y medrwn gadw cofnod o ‘beth sydd allan yna’!!!!

 Rhestr o bethau a welwyd ym Mhrydain

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com