|
Helo o Kiowa Kansas
Wel dwi ddim yn gwybod pwy ohonna chi oedd
fel fi ofn storm o fellt a tharannau wel os yda chi hofn nhw mi
ddyla chi fod wedi bod yma nos Lun ddiwetha oherwydd dyna'r storm
fwya dwi wedi i weld erioed o fellt a tharannau dim ryw un felltan
bob hyn a hyn ond roedd hi wastad yn melltio a dwi yn gwybod rwan
be roedd pobol Irac yn mynd trwyddo pan oedd y bomia yn disgyn yno,
felly oedd y taranna un ar ol y llall yn ddi ddiwadd. Ond roedd yr
hogyn o'r Iwerddon sydd yn gweithio hefo mi sef Jeremiagh (neu ei
nickname 'BULLFROG' pam??? peidiwch a gofyn!!) a mi doeddan ni
ddim yn poeni ryw lawar dim ond chwerthin drwy'r holl beth! rhannu
straeon am bethau ddigwyddodd yn Vernon Texas, fel yr anffawd bach
ges i hefo'r heddlu yno....Be ddigwyddodd oedd roeddwn wedi
gorffan tua 3 o'r gloch yn y bora ac roeddwn wedi parcio fy lorri
yn yr 'elevator' lle roeddwn yn mynd i wagio fy llwyth fora
drannoeth ac yna roeddwn wedi cael ar ddeall y basa'r hogia yn fy
nghodi ar ei ffordd yn ol i'r camp o'r cae. Felly ar ol pacio'n
ddel mi gerddais yn ara deg yn ol i'r ffordd. Ar fy ffordd yn ol
daeth ryw gar ataf i fynny yn ara deg bach mi fu bron mi gael ffit
pan welais mai y glas oedd o! Ond roedd o yn glen a phob dim dim
ond un drwg oedd mi fues i yn sefyll yn yr un fan am bron i 2 awr!!!
a dwy waith ddoth y plisman ma i fy holi a dywedodd os yr on i yna
erbyn iddo fo ddod rownd y drydydd waith mi fasa fo yn mynd a fi
yn ol i'r camp...mi allwch fentro mod i yn falch nad o i ddim yno
pan ddoth yn ol!!!! Na mae petha yn eitha tawel yma yn Kiowa
wythnos yma mae rhan fwyaf o'r criwiau wedi gadael a da ninnau
bellach yn gweithio ryw 45 munnud tu allan i'r dref. Maen
ddiddorol gweld hefyd nifer o fflagiau tu allan i dai pobol wedi
cael eu tynnu lawr hannar ffordd fel arwydd o gydymdeimlad o golli
y cyn Arlywydd Ronald Reagan dyna sydd yn mynd a rhan fwyaf o
amser teledu yma. Gai ddiolch hefyd I’r rhai ohonnoch sydd wedi
bod yn fy e bostio i hefyd cofiwch fod croeso chi neud. Reit dwi
off am gwrrw oer a traed i fynny rwan
Hwyl am y tro!!!
Guto
Os hoffach chi
gysylltu yn unigyrchol a fi mae croeso ichi fy ebostio ar
gutothomas@hotmail.com
|
|
|
Hello from Kiowa Kansas
Well I don’t know how many of you were
afraid of thunderstorms as I was, well if you are you should have
been here last Monday night, because it was the biggest storm I’ve
ever seen, not your usual thunderbolt every so often but constant
thunder and lightning, I can sense now what the people of Iraq
were going through with the constant bombing, that’s how the
thunder was here one after the other without a break. But
Jeremiah ( also known as BULLFROG, why ??? don’t ask!!!) the Irish
lad that works with me, and I weren’t in the least bit worried and
we had a good laugh about what we got up to in Vernon Texas, such
as my little scrape with the police there……. Well what happened
was I’d finished work at about three a.m. and had parked my lorry
in the ‘elevator’ where I was going to unload my wagon in the
morning and I was of the understanding that one of the lads would
pick me up on my way back to the camp from the field. So after
pulling up and parking the lorry I began to make my way slowly
back to camp, and as I was going on my way a car pulled up slowly,
I nearly had a fit when I realised it was a cop car!!! But he was
nice enough and all that, except for the fact that I was in the
same spot for nearly two hours!!! Then he came round twice again
and told me if I was there the third time he came around he’d be
taking me back to camp… well you can imagine I was quite relieved
that by the time he eventually came back a third time I wasn’t
there!!!!! Well things are pretty quiet here in Kiowa this week,
most of the crews have left and we’re working about 45 mins from
the town. It’s interesting to note how many flags there are
outside people’s homes at half mast as a sign of condolence at the
former President Ronald Reagan’s death, indeed most of this week’s
tv is taken up by coverage of his death. I’d like to thank all of
you who’ve been emailing me and don’t forget to keep in touch.
Right then I’m off to put my feet up and enjoy a cold beer.
Cheers for now.!!!
Guto.
If you would like to contact me directly
you’re welcome to e.mail me at
gutothomas@hotmail.com
|
|