Wesleyaeth yn Rhiw

Mae yr ardal hon ar ben mynydd, a elwir yn Mynydd y Rhiw, yn Ne Orllewin Llyn, a golchir y godre gan feisfor Ceredigion. Nid yw yn nepell o’r Tyddyn, ac yr oedd yr amryw o’r ardal hon yn mynychu capel y Tyddyn yn y cychwyn ac yn aelodau selog a ffyddlon. Yn eu plith yr oedd John a Mary Hughes, Ty Croes, William a Jane Morris Tyn Borth, Catherine Lewis Porth Neigwl, W Hughes Tyn Gamdda, John Griffith Tan y Meini, ac efallai eraill. Yr oedd yng nghapel Tyddyn sedd a elwid yn "Sedd Rhiw", am mai yno yr arferent eistedd. Arferai gweinidogion y gylchdaith roi pregeth iddynt bob tair wythnos, pan yn y rhan honno o’r gylchdaith. Y traddodiad yw, y cynhelid oedfeuon ym Modgrigin, Bryn Ffowc, hofel Plas yn Rhiw, nes cael lloches sefydlog yn Bwlch, lle buont o 1814 hyd 1832 pan adeiladwyd capel. Sefydlwyd Rhestr o dan ofal John Hughes Ty Croes, a gyfarfyddai yn y Siamber a’r pregethu yn y gegin. Cynhelid Ysgol ar y Sabath yn y Ty Newydd, elwir yn Gorffwysfa yn awr. Yn y man cynhelid yr Ysgol yn yr Eglwys trwy ganiatad y Parch W Ellis y Ficer. Gan nad oedd Ysgol yn perthyn i’r Eglwys ei hun yr oedd yn ddigon call i ganiatau i eraill wneud. Mae pethau wedi newid er y pryd hwnnw. Daeth y "Wesla Bach" ar warthaf yr ychydig gyfeillion yn y lle hwn eto, a daliasent y cwbl yn eu rhwyd , ond John Hughes a’i wraig. Nid oedd yma gapel iddynt eu drawsfeddiannu, ac ymgymerasant a chodi capel iddynt eu hunain. Gwelir oddiwrth enwau yr ymddiredolowyr pwy oedd y "Diwygwyr"- John Evans, Cae Rhos, J Jones Cochmoel, D Evans Rhos, W Hughes Tyn Gamdda, J Parry, Tyn Parc, H Davies Y Mynydd, E J Roberts, Pen Y Groes,a W Jones. Y Bwlch oedd yn fan cyfarfod ein pobol. Gwelir fod yr enwau yn rhai y daethom ar eu traws yn hanes yr achos yn Tyddyn. Ymddengys y bu cryn lewyrch ar yr achos yn y capel newydd. Gadawn iddynt. Dilynwn John Hughes a’i wraig. Yn hytrach nag ymuno a’r ymranwyr hyd yn oed yn eu llwyddiant, dewisodd John Hughes a’i wraig agor drws Ty Croes yn gartref yr arch, ac yno yr ymgasglai ychydig gymdogion oedd o’r un feddwl a hwy i gynnal tipyn p gyfeillach grefyddol, cyfarfodydd gweddio Ysgol Sabothol a phregethu achlysurol ar y Saboth a nos fawrth. Arhosodd bendith ar y teulu. Daeth dau o’r meibion yn flaenoriaid, Humphrey Hughes Ty Fwg Aberdaron a Thomas Hughes Ty Canol Rhiw. Aeth un o’r merched yn adnabyddus fel Mrs Williams Morfa Bach ac i wasanaethu yr achos yn Aberdaron, ac un arall yn Mrs Williams Gorffwysfa ac yn gwasanaethu yr achos yn Rhiw, aeth dwy ohonnynt i Gaergeiliog ym Mon ac yn gefn i’r achos ym Mhont Rhyd y Bont gyda cherbyd, bwrdd a gwely, ac arhosodd dwy adref i ofalu am y proffwydi. Tra yr oedd Wesleyaeth Ty Croes yn ffynu, yr oedd Wesleyaeth newydd capel Pisgah yn gwanychu, ac yn agos i angau. Tua’r flwyddyn 1844 prynwyd capel i’r cyfundeb am £70 gan John Hughes Ty Croes.a W Jones Groeslon. Yr oedd W Jones yn fab i Edward Jones Penrhyn Du Llanbedrog. Daeth ei ddiwrnod gwaith i ben cyn cof i ni, ond yr oedd ei wraig yn un o ragarolion y ddaear ac yn groesawus iawn o bregethwyr. Dilynwyd hi yn y rhinwedd gan ei merch, Mrs Williams Ty Croes Bach a bu yn oruwchwylydd yr eglwys hyd derfyn ei thaith pryd yr aeth ei swydd i’w chwaer, Mrs Thomas Ty Canol.

Teulu_ty_croes.jpg (133964 bytes)  Mrs Williams, Morfa Bach Aberdaron, ond yn wreiddiol o Ty Croes mawr.

Ar ol ymsefydlu yn y capel parhaodd yr achos yn siriol am flynyddau. Nid oedd yr aelodau yn lluosog na’r gynulleidfa yn fawr ond roedd yn achos byw a siriol. Erbyn ein tymor ni ar y gylchdaith yr oedd john Hughes wedi mynd oddiwrth ei waith at ei wobr ond yr oedd ei briod dawel synhwyrol a chrefyddol yn aros a’r plant oedd adref yn talu gwrogaeth iddi. Digwyddodd amgylchiad y pryd hwnnw sydd yn werth ei gofnodi. Prin yr oedd y mab Gruffydd mor aiddgar dros foddion gras y Ty a gweddill y teulu. Yr oedd digwyddiadau bychain yn ddigon o esgusawd dros fod yn absennol, er cryn brofedigaeth i deulu oedd mor selog. Ond un sabath efe oedd wedi codi foreaf ac wedi ymwisgo i fynd i foddion gras. Yr oedd gwr lled enwog yng nghapel y Methodistiaid y bore hwnnw ac yno yr aeth. Testun y pregethwr oedd "Bydd barod Isreal i gyfarfod a’th Dduw. Effeithiodd y bregeth yn ddwys ar ei feddwl. Aeth i wrando gwr dieithr arall oedd gyda’r annibynwyr yn y prynhawn ac er ei syndod testun hwnnw oedd "Bydd barod Israel i gyfarfod a’th Dduw" yr hyn ddyfnhaodd y dwyster oedd wedi ei feddianu. Yn yr hwyr aeth i gapel Wesleyaidd a phan ddarllenodd y pregethwr y testun y geiriau oedd "Bydd barod Israel i gyfarfod a’th Dduw". Meddianwyd ef a syndod a dyfnhaodd yr argraff oedd ar ei feddwl ei bod yn weinidogaeth iddo uniongyrchol iddo ef. Dechreuodd nychu y dyddiau dilynol a pharhaodd i nychu nes i angau ei gymeryd ymaith. Hyderwn iddo wrando ar y llais ac ymofyn am y parodrwydd. Mae gan Dduw lawer ffordd o rybuddio dynion "I ffoi rhag y llid a fydd" ac i ddianc i’r noddfa. Thomas Hughes y mab oedd yn y tresi y pryd hynny a’r hen frawd William Williams Tyddyn Castell yn cydweithio ag ef. Un o’r dychweledigion oddiwrth y "Wesla bach" oedd ef, ond yn hen frawd oedd yn caru Duw ac yn caru’r achos. Er yn fwy clyd ei amgylchiadau na’r cyffredin ni ragorai mewn haelioni. Cyfrifid ef yn dipyn o gybudd a bron nad oedd yn barod i gydnabod hynnu. Cryn hunanymwadiad oedd iddo ymadael a’i arian. Ond rhaid i ni gydnabod nad oeddd yn llaw gaead pan yr argyhoeddid ef fod yr achos yn deilwng. Hyderwn i’r hen gyfaill gyrraeddd y ddinas sydd a’i heolydd yn aur pur.

Daeth tro ar fyd yn Rhiw. Er fod £20 yn aros yn ddyled ar gapel Pisgah er pan y prynnwyd ef yn 1844 am £70 daeth cri am gapel newydd yn 1877, pan oedd John Jones ar y gylchdaith. Rhoddwyd y tir gwerth £25 gan Mrs Williams Tyddyn Meirion. Yr ymddiriedolwyr oedd Griffith Owen a’i fab, W Owen Meillionydd Fawr, W Griffith Meillionydd Bach, W Williams Tyddyn Castell, Lewis Williams a’i fab Morfa Bach, T Hughes a’i fab John Ty Canol, T Owen Plas Iol. T Hughes, Tyn Gamdda, T Owen y Bwlch a’r Parch Jones. Cyfrifid y draul yn £544. Gofynent am £75 o rodd a £100 o echwyn. Argymhellai pwyllgor y capelau eu bod i geisio "tenders" eraill am fod y swm yn uchel, ac hefyd eu bod i gael £150 o’r addewidion i law cyn gosod y gwaith. Adeeiladwyd y capel ac eistedd 140 ac efe yw’r capel gwychaf yn yr ardal. Credwn mai yn 1878 yr agorwyd ef ac yn pregethu roedd y Parchedigion S Davies, John Evans ( Eglwys Bach), a’r ysgrifennydd. Buont am beth amser cyn dyfod i fyny a’r amodau , a chynhigiodd cyfaill £50 ond i’r pwyllgor roddi £50 roedd i ddileu y £100 oedd yn aros yn ddyled. Goreu y pwyllgor oedd cynnig £25. Cymerwyd diddordeb mawr yn y symudiad gan deuleuoedd y ddau Feillionydd a chyfranasent yn helaethach na neb arall tuag ato. Cymerwyd Mr Owen Meillionydd Mawr ymaith cyn mwynhau llawer o’i freintiau er colled i’r achos, ond parhaodd Mrs Owen a Mr Owen y mab i gynorthwyo’r achos. Mae yr un peth i’w ddweud am W&G Griffith Meillionydd Bach, merch yr Hendre Aberdaron yw Mrs Griffith a nodweddir hi gan sel a ffyddlondeb ei rhieni.

Capel Pisgah.JPG (50451 bytes)   Capel Pisgah Heddiw,

Y blaenoriaid o’r cychwyn oedd John Hughes Ty Croes, W Jones Y Bwlch, W Jones y Groeslon, W Williams Tyddyn Castell, a T Hughes Ty canol. Mae dau bregethwr ar y tir yn awr, a fagwyd gan yr eglwys sef Owen a J Williams. Arweinwyr presennol yr achos ydyw Robert Owen Thomas Hughes, John Griffith, Humphrey Jones ac Evan Williams. Yn y Rhiw y cartrefa pregethwr cyflogedig sydd wedi gwasanaethu‘r rhan yma o’r gylchdaith ers blynyddau. Mae cyfleusterau a breintiau yr eglwysi uchod yn uwch ac yn helaethach a dylai y ffrwyth fod yn gyfartal.

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com