"Morgan y Gogrwr"

Brodor o Dudweiliog oedd Morgan Griffith yn ol pob son. Priododd ag Elizabeth merch Penllech ym mhlwy Llangwnadl, a symud i fyw i Fwlch y Rhiw. Cofnodir iddo fedyddio o leiaf ddau o’i blant yn eglwys Rhiw – hogyn o’r enw Griffith a fedyddiwyd ar y trydydd o Orffennaf 1737 a merch a fedyddiwyd ar y pumed ar hugain o Dachwedd 1739, mae’n debyg. Catrin ei ferch, meddai Myrddin Fardd ‘a briodes Wm. Williams ail fab Edward Williams, Llwyn Celyn ym mhlwyf Llanberis, a’u mab hwynt oedd yr hyglod fardd Gutyn Peris.

Saer coed oedd wrth ei alwedigaeth yn ol rhai haneswyr ond saer maen yn ol haneswyr eraill. Mae’n rhaid hefyd ei fod ar rhyw gyfnod o’i fywyd yn llunio gograu ar gyfer y ffermydd, fel yr awgrymir yn yr anterliwt a gysylltir a’i enw:

 

Cyda’ch cenad Bobl ddiweddi ddi Wyddor,

 Mae genif Awdurdod Tylwyth yr Ysgubor.

I ddywedyd Pregeth, a wneuthum i’r plant.

Pan oeddwn i’n tylla Cant y Gogor.

 

 Yn ychwanegol at hyn i gyd mae ‘na draddodiad, pur gyffredin fod Morgan yn ddatgeinydd penillion ac yn fath o athro cerddoriaeth at iws gwlad. Mae hi’n anodd iawn gwybod erbyn hyn pa ddoniau yn union oedd ganddo a beth oedd ei gyfraniad. Fel Morgan y Gogrwr Dysgawdwr y Merched y cyfeirir ato yn rhestr ‘Henwau’r Chwareddyddion’ ar gychwyn yr anterliwt ond sylw tafod mewn boch yw hwnnw yn awgrymu, yn anheg mae’n ddiamau, bod Morgan a Methodistiaid eraill yn ferchetwyr. Dyma’r manylion a geir yn Goleuad Cymru:

‘Cafodd ddysgeidiaeth yn ieuangc; ac efe oedd athraw Datganwyr yr ardal. Mynych y gelwid amdano, ac y cyrchid ato gan ieuengctid Lleyn, i gael addysg ganddo o berthynas i Donau a Thon nodau’.

Yr hyn a wnaeth Morgan Griffith wedi’r droedigaeth oedd tagu’r datgeinydd a oedd ynddo, esgeuluso’r saer ac ymroi ati i bregethu’r efengyl. A deimlodd unrhyw dyndra wrth droi swch ei aradr a thorri cwys newydd? Do mae’n ddiamau. Profiad ingol yw ymgysegru. Wrth ddadansoddi Williams o Bantycelyn a’i weithiau cyfeiriodd Saunders Lewis at yr ymgysegru hwn fel ‘ffordd yr uno’. Dawn lai a chrebwyll mwy cyfyng a roddwyd i Forgan Griffith ond bu’n ofynnol iddo yntau ymroi ati i ymgysegru. Go brin y gwyddai fawr ddim am yr addysg glasurol a ffynnai mewn ysgol a choleg ond roedd ganddo ddiwylliant cyfoethog, Cymreig, serch hynny. Etifeddodd ffordd werinol o fyw a dawn i ddiddori; dysgodd grefftau a allai wella ei ystad. A hwyrach mai diwylliant crefft yn fwy na diwylliant llyfr oedd un Morgan Griffith. Prun bynnag. Fe aberthodd (neu fe gysegrodd) y cyfan i gyd ar draul profiad o droedigaeth a’i hargyhoeddodd fod pregethu syml carreg farch a bol clawdd yn deilyngach rhinwedd ac yn gadarnach arfogaeth ar gyfer y byd a ddaw.

Ond roedd gan Morgan y Gogrwr, ddyfnder o argyhoeddiad a chredai fod ganddo yntau etifeddiaeth i’w gwarchod. Go brin i’r dynwarediaid sgilgar o’i bregethu a’i bregethu, a’r chwerthin a’i dilynai, oeri dim ar ei argyhoeddiad na phrin gyffwrdd y gan a oedd yn ei galon. Fel canodd cydoeswr a chydweithiwr iddo yn Llyn:

 

Yn nyfnder pob rhyw loes,

A gorthrymderau f’oes,

Fy noddfa a’m nerth

Yw aberth mawr y groes;

Rhinweddol haeddiant marwol glwy’

Yw nghysur yn y byd tra fwy’,

A’m hunig ddigonoldeb

I dargwyddoldeb mwy.

 

Fel yr eglurodd John Roberts mor odidog yn ei gyfrol ‘Methodistiaeth Galfinaidd Cymru:

‘Yno apeliai dynion at galonnau eu gwrandawyr – at eu hofn a’u gobaith, eu cywilydd a’u heuogrwydd, eu diolchgarwch a’u cariad, ac i gyrraedd calonnau dynion anturient ar eu calonnau eu hunain a rhoddent dragwyddol heol i honno siarad a gweiddi a rhuo a chanu wrthynt. Dyna’u pregethu hwy, i’w esbonio, i ddadlau yn ei gylch, i’w ddysgu i eraill, ond nwyd fawr eu bywyd, ac angerdd greddfau dyfnaf eu natur yn llifo drwyddi yn cymryd meddiant ohonnynt ac yn llywodraethu arnynt yn llwyr.’

Gwnaeth yr hynod Henry Hughes Bryncir, gymwynasau rif y gwlith a hanes Methodisitiaeth Llyn drwy ei ymdrech i’w ddiogelu. Un o’i gymwynasau oedd cofnodi, ym mis Mawrth 1895, ar ddarn o bapur brau. atgofion Richard Jones, Ty’n Lon Rhiw. A dyma ddyfyniad o’r cronicl hwnnw:

‘.... Bum yn gweini gyda Rich. Parry Bodwyddog. Ac yr oeddwn gydag ef yn y Crown, Pwllheli a’r hen W G Bodwrdda yno ( Ty Mawr Clynnog wedi hynny). Yr oedd y ddau yn siarad yn arw... Dywdai W G “ Chaiff yr un person fy nghladdu i”. Dywedai hefyd mai yn ysgubor Mellteyrn yr oedd Morgan y Gogrwr pan ddaliwyd ef. Fod ei feibl ganddo ef, a’r adnod y pregethai arni a’i dalen wedi ei throi arni. Yn ymyl y Fantol yr oedd yn pregethu pan ddaliwyd ef yr ailwaith ar Ros Hirwaun....’

Yn ystod eisteddiad o Gyfarfod Misol Lleyn ac Eifionydd a gynhaliwyd yn Rhydyclafdy, Mai 7 – 8 1892, dangosodd Henry Hughes Feibl Morgan y Gogrwr i’r cynrychiolwyr.

Fel un a fyddai yn arfer ei ddoniau i bregethu’n achlysurol, yn y gymdogaeth y disgrifir Morgan Griffith yn ‘Drych yr Amseroedd’ ac mae hi yn eithaf amlwg mai pregethwr cyffrdin at iws gwlad ydoedd o ran dawn a dylanwad, Ond bu ei sel dros bregethu a’i benderfyniad i wneud hynny mewn ysgubor ac ar groesffordd, a hynny yn wrthgefn i ddeddfau gwlad ac eglwys, yn foddion iddo golli ei ryddid ddwywaith. Ond fe ymddengys fod ganddo afael ar y math hwnnw o ryddid na ellir ei golli fyth.

Yn ol Henry Hughes, Bryncir, mewn ysgrif yn y ‘Drysorfa’, ym 1901, ar fin y ffordd sy’n dringo o Sarn Mellteyrn i gyfeiriad Pen Gopa, ar yr hances poced o dir glas yna sydd o dan ffarm Mellteyrn, y pregethai pan ddaeth yr helgwn ar ei warthaf a’i ddal am y waith gyntaf.

Cludwyd y plant amddifaid – Griffith yn wyth a Catherine yn chwech – gan eu hewythr John, brawd i’r fam, o Fwlch y Rhiw i’r dre mewn dwy gawell wedi eu strapio o bobtu cefn y merlyn, i ennyn tosturi. Byddai’r olygfa honno, a golygfeydd o’r erlyn yn y llys, yn ddeunydd crai digon o ryfeddol ar gyfer epig deledu yn nhraddodiad ‘Metro Goldwyn Mayer’ – cosbi’r amddifad a charcharu’r ffon fara. O ran hynny, mae haneswyr Methodistiaid eisioes wedi rhoi’r stori honno i ni mewn technicolor.

‘Pan yr ymddangosai gerbron yr ynadon ym Mhwllheli, dygwyd y ddau blentyn yno hefyd, gan ewythr iddo, yn y gobaith y byddai i’r olwg arnynt doddi calonnau y boneddwyr. Ond y cyfryw oedd cynddaredd y rhai hyn, fel nad oedd yr olygfa yn ei tyneru mewn un modd. Rhoddasaent lyfr gerbron y bachgen, yr hwn oedd tuag wyth mlwydd oed, er mwyn cael gweled a fedrai ddarllen; gwnaethant yr modd gyda’i chwaer, yr hon oedd ddwy flynedd yn ieuengach; a chwedi cael y medrai y ddau, gwelent yn hyn drosodd ychwanegol, ac ysgelerder nas gellid ei faddeu, am yr arwyddai fod Morgan Griffith yn bwriadu dwyn ei blant i fyny yn yr un heresi ag ef ei hun.’

Ei bresio i’r llynges fu hanes Morgan y Gogrwr, ddwywaith yn olynol, a’i anfon i long oedd wedi ei hangori ar Afon Tafwys. Stori liwgar hefyd yw hanes Morgan yng Nghaernarfon a rhywun yn ol ‘Goleuad Cymru’ yn dwyn ei fwyd pan oedd yn gofyn bendith arno. Yna ei gerdded o Gaernarfon i Gonwy, lle pregethodd yn ol traddodiad, i fagad o bobl a ddaeth at ddrysau’r carchar i fusnesu nei i gefnogi:

‘...... Dywedir na fu y bregeth yn ddieffaith, ond i’r saethau lynu yng nghalonau dau o ddynion ieuainc yr ardal y rhai ar ol hyn, a fuont yn dra defnyddiol gyda gwaith yr efengyl’.

Os mai saer coed oedd Morgan Griffith wrth ei grefft a bod y llys ym Mhwllheli yn ei ystyried yn derfysgwr gwlad neu’n segurwr, dyna esgus deublyg dros ei drosglwyddo i afaelion y ‘press gang’ a’i orfodi i gynnal breichiau llynges Prydain Fawr yn ei brwydrau yn erbyn y ffrancwyr ac eraill ar y mor mawr. Ei drosedd mewn gwirionedd, oedd pregethu heb drwydded i wneud hynny mewn mannau a oedd heb ei cysegru a’u neilltuo i’r diben hwnnw.

Beth fu tynged Morgan wedi gadael Conwy? Hanner dychymyg a hanner hanes, mae’n debyg, sy tu ol i ddisgrifiad Morris Thomas o’r hyn a ddigwyddodd:

‘Wedi taith flinderus, cyrhaeddasom y Nore, ac yna rhoddwyd ni yn y Colchester frigate, Captain Digby Dent. Byddai llawer o wawdio arnom gan y morwyr am ein bod yn Fethodists, ac yn anghynefin a’r mor. Gwnaed Morgan yn carpenter’s mate, gan ei fod yn fedrus fel saer, a chawsom ninnau ein pump fynd i helpu’r cook. A gwneud goruchwylion cyffredin ar fwrdd llong. Am ein bod yn ddynion sobr, gweithgar, daeth y swyddogion i ddibynnu arnom ac i’n hoffi, ac o dipyn i beth enillasom barch y morwyr. Anfonwyd y Colchester i lannau Sgotland, ac yno y buom yn mordeithio am wythnosau yn gwylio llongau Ffrainc rhag iddynt gludo’r Pretender, fel y gelwid ef i ucheldiroedd Sgotland’.

Adeiladwyd ffrigad y Colchester hanner cant a phedwar o ynnau, mewn iard longau ym mhorthladd Deptford yn 1707 a’i hailadeiladu yn Chatham yn 1721. Os mai yn nechrau’r pedwardegau y presiwyd Morgan i’r llynges, yna roedd y llong a adeiladwyd ym 1721 yn tynnu ymlaen erbyn hynny a’i chyflwr yn dirywio. Ond mae yn debygol mai cydio mewn enw llong, ar antur a wnaeth Morris Thomas ac nid diogelu hanes a chan i’r llong gael ei malurio yn fwriadol yn 1742 mae’n anhebyg ond nid amhosibl i’r Gogrwr fod ar ei bwrdd cyn y dyddiad hwnnw.

Beth bynnag oedd enw’r llong, a lle bynnag y bu’n mordeithio y mae’n sicr iddo gerdded dyffryn Bacca a gorfod crogi ei delyn ar yr helyg mewn gwlad a oedd yn ddieithr iawn i saer gwlad o Lyn. Roedd y driniaeth a gai Morgan a’i debyg ar long ryfel y cyfnod yn un arw a chreulon, gyda chwipio a chrogi yn gosbau cyffredin.

Roedd y curo didrugaredd ynghyd ag ofn cosb bellach yn aml yn gwallgofi dyn, neu o leiaf yn ei ysigo’n gorfforol. Mantais cael corff wedi ei dorri i lawr, wrth, sgwrs, oedd siawns i gael rhyddhad buan gan na fyddai gwr cripil fawr o werth i warchod llong ryfel. Yn ychwanegol at y ddisgybliaeth lem, roedd yr amodau byw hefyd yn rhemp.

Roedd lle ar long o’r fath yn gyfyng eithriadol i ddyn ac anifail – a’r ystafelloedd o dan y bwrdd yn aflan ac afiach i’r eithaf. Canlyniad byw mewn lle mor afiach gyfyng oedd ffyniant afiechydon o bob math – yn cynnwys plau, marwol ar y pryd, fel y frech wen, sgyrfi a disyntri. A beth am y damweiniau a’r doluriau a geid wrth i ddynion gael eu taflu o starn i starbord fel roedd y llongau yn cael ei llowcio ac yn cael ei lluchio gan rym y tonnau? A marw o dwymyn a’i gladdu yn y mor fu rhan Morgan Griffith, hefyd, yn ol y tadau Methodistaidd:

‘Eithr nid hir y bu Morgan Griffith fyw ar ol hyn; clafychodd o glefyd trwm, o’r hwn y bu farw. Adroddwyd yr hanes am dano gan ei gymdeithion y rhai  nad oedd eisiau eu gwasanaeth yn y llynges, a ddychwelasant yn eu holau i’w cartrefleoedd; a thystient un ac oll mai diwedd Morgan Griffith oedd Tangnefedd.

Yn ychwanegol at hyn i gyd roedd gan rai fel y Gogrwr groesau eraill i’w cario; beichiau na allai Methodyn o Lyn mo’u rhannu yn llawn a chriw mor frith a gwahanol fel a geid ar long ryfel yn y Ddeunawfed Ganrif. Eto, hwyrach mai’r peth gwahanol na allai ei lawn rannu a’i cynhaliai.

              ..... Mae’r hwn fo’n gaeth yn rhydd.

Serch hynny, dyn naturiol oedd Morgan Griffith ac nid ffansi llenor i gyd yw disgrifiad Morris Thomas ohono yn hiraethu’n llethol am Llyn a’i anwyliaid yno.

Hon oedd canrif fawr rhyddid. Bu sawl un yn ceisio’r trysor ac yn marw yn yr ymdrech. Rhyddid i addoli oedd craidd yr helynt i gyd. Y gred wiw honno fod gan ddyn hawl foesol i fynegi ei argyhoeddiadau dyfnanf yn ol ei gydwybod – a hawl i fynegi ei anffyddiaeth o ran hynny. Daliwyd Morgan y Gogrwr gan argyhoeddiad o’i hawl i’r rhyddid hwn a mynnodd son amdano, a’i gymell ar arall, boed hynny ar Groeslon Fantol neu ar glwt o dir Mellteyrn. 

~~~~~~~~

Diolch i’r Parchedig Harri Parri am ganiatau i ni ddyfynu hanes Morgan y Gogrwr o’i lyfryn ‘Morgan y Gogrwr o Fwlch y Rhiw’.

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com