|

Hanes Capel Penycaerau
Llyn.

"Blaenoriaed"
Copi o waith y ddiweddar John Griffith,
Siop Penycaerau. Ysgrifenwyd tua’r flwyddyn 1891
Adeiladwyd y capel hwn rywbryd oddeutu
1776 yn ol un hen lawysgrif gan Richard Griffith Ty mawr ymddengys fod pregethu
yn yr ardal cyn hynny gan Morgan Griffith Bwlch Rhiw a Hugh Thomas ydoedd ddyn
dyrnu yn Madryn Isaf. Byddai Charles Marc o’r Ty Mawr yn pregethu yn awr ac
eilwaith yn yr ardal, Robert Sion Hughes hefyd yr hwn oedd yn byw yn Cefndarthol
a’r dir Ty Hywel ydoedd hen bregethwr ffyddlon a diwyd yn yr amser hwn ac mae
yn Pencaerau ( fferm lle mae Mrs Anne Parry yn byw) y cynhelid y cyfarfodydd
eglwysig y pryd hwn.
Modd bynnag tua’r amser a nodwyd y
daeth y frawdoliaeth i’r penderfyniad fod yn rhaid cael lle i addoli a buont
yn ffodus i gael lle yn y fan y saif y capel heddiw.
Adeilad to gwellt ydoedd y mae yn
ymddangos fel y cyffredin o gapelau y cyfnod yna. Ychydig o eisteddleoedd ynddo
ac yna meinciau newyddion i bawb eistedd arnynt yn ddiwahaniaeth. Methais a chael
allan pwy oedd prif gychwynydd gyd ac adeiladu y capel ond y tebygrwydd yw mai
Robert Sion Hughes, Griffith Robert Penycae a Rowland Humphrey Caebrynllwyd, ac
ymddengys fod yr Arglwydd wedi bendithio eu llafur i’r fath raddau fel y
gorfuwyd ail adeiladu neu helaethu y capel oddeutu y flwyddyn 1800, yn hwnnw yr
ydoedd llofft (gallery) ac yn ol dywediad yr hen bobol yr ydoedd rhesel yn ei
ffrynt a grisiau o’r tu allan yng nghefn y capel yn arwain o’r briffordd
iddi.
Yr ydoedd James Owen Penycaerau erbyn
hyn wedi dyfod yn gymorthwy effeithiol i ddwyn y gwaith ymlaen yn ei holl
rannau.Ganwyd ef yn y flwyddyn 1780 aeth at grefydd yn flwyddyn 1788 a rywbryd yn
foreu yn y ganrif hon symudodd i fyw oddi yma i Bryn Gwydd Edeyrn ac oddi yno
drachefn ymfudodd yn fuan i’r America a galwodd enw yr ardal yr ymsefydlodd
ynddi yno yn Penycaerau er cof am yr hen ardal enedigol. Bu yno fel yna o werth
mawr i Grefydd ac ystyrid ef fel tad neu batriarch y Methodistiaid Calfinaidd yn
yr America. Bu farw mewn tangnefedd Gorph 31 1855 yn 73 mlwydd oed. Dywedir mai
dyn o daldra canolig ydoedd James Owen yn meddu ar deimladau tyner iawn,
gwyliadwrus a diargyhoedd yn ei nodiad. Yn meddu ar Dduwioldeb mor amlwg fel
y byddai y drygionus yn ffoi o’i wyddfod.
Haedda Rolant Humphrey a Griffith
Roberts hefyd sylw. Trigai R.Humphrey yn Caebrynllwyd (Bronllwyn ger Plasiol)
mae
olion ei dy ef ynghyd a Cefndarthol i’w gweled eto. Dywedir eto ei fod yn
ffyddlon gyda’r gwaith yn ei holl rannau ac mai mewn gweddi yr oedd ei brif
hynodrwydd. Bu farw mewn gorfoledd a’i lygaid yn gweled iachawdwriaeth yr
Arglwydd yn y flwyddyn 1825 yn 74 mlwydd oed. Saer maen ydoedd Griffith Roberts
Pencae ac ymddengys ei fod yn un o’r rhai oedd yn adeiladu y capelau cyntaf fu
yma. Yr ydoedd yn ddyn gwirioneddol dda gyda’r achos da yn ei holl
rannau,ceryddai yn llym yr afreolus heb dderbyn wyneb neb pwy bynnag. Rhybuddiai
yr ieuenctid i ochel arferion llygredig yr oes. Methais gael gwybod ei oed na pwy
amser y bu farw.
Hugh Griffith Bodwrda hefyd a fu yn
gymorth mawr i ddwyn yr achos ymlaen, yr ydoedd ef mewn sefyllfa i wneuthur
llawer o ddaioni, ac mae yn dda gennym gael ar ddeall ei fod wedi gwneud ddefnydd
o’r fantais honno, gan fod Bodwrda wedi bod yn garetref da i bregethwyr
Penycaerau am flynyddau. Fel cymydog yr ydoedd yn heddychol a chymwynasgar, fel
Cristion yn ffyddlawn a gweithgar a chanddo barch mawr i ordeinhadau crefydd.
Gofalai bob amser am ddechrau yr oedfaon yn eu hamser pa nifer bynnag
fyddai yn bresenol, ac nid yn unig byddai yn ymarfer crefydd yn y capel ond
byddai yn ei hymarfer gartref yn ogystal. Gofalai am fod y ddyledswydd deuleuaidd
yn cael lle priodol. Dewiswyd ef yn ddiacon yn y flwyddyn 1809 a llanwodd y swydd
yn anrhydeddus hyd ei farwolaeth yr hyn a gymerodd le tach 30 1849 wedi
gwasanaethu ei swydd am 40 mlynedd ac yn oedran aeddfed o 72 mlwydd oed.
Richard Griffith Blawdty fu o wasanaeth
mawr i’r achos yn y cyfnod hwn. Dewiswyd yntau yn ddiacon ac ymddengys mai
ychydig a fu yma yn gallu llenwi y swydd yn fwy anrhydeddus nac ef. Meddai fwy o
wybodaeth ysgrythyrol na neb a gydoesai ac ef yn yr ardal ac felly edrychid i fyny ato fel athraw galluog a darllenwr da yn yr ysgol sabbothol ac oherwydd y
wybodaeth helaeth hon yr oedd yn werthfawr iawn i’r Eglwys yn ogystal.
(Yma credaf fod dalen ar goll, credaf mai
am Thomas Owen Felin Uchaf y cyfeiria yn y rhan nesaf)
Os oes melinydd duwiol ar y ddaear dyma
fe yma ymddengys nad oedd yn meddu ar dalentau disglaer a doniau hedegog. Eto yr
ydoedd rhywbeth ynddo oedd yn peri gwywdre a ddychryn i annuwioldeb ac
annuwolion yn yr ardal,ac hwyrach na fethom wrth ddweud mai y cymundeb agos a
ddaliai a’i Dduw yn ddirgel ac yn gyhoeddus oedd yn cynhyrchu y sancteiddrwydd
yma ynddo. Ganwyd ef yn flwyddyn 1794, dewiswyd ef yn ddiacon yn 1834. Bu farw yn
1861 yn 67 mlwydd oed wedi gwasanaethu y swydd o ddiacon yn ffyddlon ac
ymroddgar am 40 mlynedd.
"Cymanfa 1885"
Yn y flwyddyn 1832 ail adeilawyd y capel
am y drydedd waith erbyn hyn. JohnGriffith Factory a ddewiswyd yn
ddiacon a bu am tua 18 mlynedd yn un o gewri Pencycaerau. Hysbysir fi fod y brawd
hwn yn hyddysg ac yn gadarn yn yr ysgrythyrau, yn fwy felly na neb a fu o’i
flaen ac mewn canlyniad yr ydoedd yn ddyn gwerthfawr iawn. Siaradai ar unrhyw
fater yn ddifyfyr yn y society gyda blas a nerth. Yr oedd ei ddeall cryf a’i
gof bywiog yn ei wneuthur yn athraw ysgol sabbothol o’r radd flaenaf a
thystiolaeth un amdano yw mai "dyma’r dyn cyffredin"(heb fod yn
bregethwr) cyflawnaf a welodd erioed gyda phob rhan o waith crefydd. Ceryddai yn
llym iawn yr afreolus eto dyddanai y gwan ei meddwl, tywysai yr anwybodus. Agorai
yr ysgythyrau a dygai allan eu trysorau, bethau newydd a hen. Ganwyd ef yn 1830a
dewiswyd ef yn ddiacon yn 1855. Bu farw Medi 11 1872 yn 42 mlwydd oed wedi
gwasanaethu fel diacon ers 17 mlynedd.
Robert Williams Penrhyn Canol hefyd
gydoesai a’r ddau olaf a nodwyd. Prif nodwedd y brawd hwn fel yr ymddengys
ydoedd gwresawgrwydd ysbryd, credaf mai ei adnod fawr ydoedd "Pa beth bynnag
yr ymaflo dy law ynddo gwna a’th holl egni" Teithiodd yntau lawer i gyfarfodydd misol a chwarterol a byddai yn gyson ym moddion gras ac ystyried yr
amgylchiadau yr oedd ynddynt, rhyfeddwn yn fynnych ato y sel a’r ffyddlondeb a’i
nodweddai gyda crefydd yn ei holl rannau.
Bellach mi adawn y personol ac awn at y
cyffredinol, er y buasai yn dda iawn gennym os caniata gofod i mi fynd ar ol hen
frodyr selog eraill nad oeddynt swyddogion, ac amryw hen famau hefyd ac y mae eu
coffawdwriaeth yn berarogl hyd heddiw yn yr ardal, ond rhaid ymatal rhag
meithder. Mae enwau llawer ohonynt bob yn un i fyny fry ymhlith yr achau a’u
gweithredoedd da yn eu canlyn.
Trefn y moddion or amser yr ail
adeiladwyd y capel yn 1832 ar y Sabbath ydoedd ysgol yn y boreu, yn y prynhawn
dim moddion a phregeth yn y nos. Byddai pregethwr yn Rhydlios am 10 yn Uwchmynydd
am 2ac yn Penycaerau am 6. Yn y prynhawn byddai ieuenctid yr ardal yn ymgasglu at
ei gilydd i ddweud chwedlau, eraill yn mynd i’r tafarnau i Aberdaron a’r Rhiw,
cyn hir meddyliodd y brodyr gael cyfarfod gweddi yn y prynhawn.
Yn y flwyddyn----newidwyd y daith
sabboth rhoddwyd Penycaerau a Tanyfoel Rhiw yn daith ac Rhydlios, Deunant ac
Uwchmynydd yn daith arwahan. Yr ydoedd ysgol ysgol yn cael ei chynnal yn Tanyfoel
cyn hyn ar y Sabbath a’r nos byddai pobol Rhiw yn dyfod i lawr i Penycaerau i’r
bregethu. Bu adeg wan iawn ar grefydd yma lawer pryd ond o drugaredd pen mawr yr
Eglwys bu adeg o lwyddiant mawr hefyd. Pan fyddai un to o’r hen frodyr yn cael
eu galw adref i dderbyn gwobr byddai yr Arglwydd bob amser yn gofalu am ryw rai
eraill yn eu lle. Cafodd yr Eglwys yma ychwanegiadau mawr ym mlynyddoedd y
diwygiadau 1832, 1850 a 1858 ond bu adeg wan wedi hynnya tua 1867 byddai y Parch D
Hughes yr hwn ydoedd weinidog yn Uwchmynydd yn dyfod yma yn wythnosol i gadw
cyfarfod plant a chyfarfod eglwysig. Yr amser hwn yr ydoedd yr Arglwydd wedi
gweled yn orau symud amryw o’r hen frodyr rhai i’r nefoedd,eraill i ardaloedd eraill,ond yn fuan daeth pethau yn
well. Ymwelodd yr Arglwydd a ni a
daeth amryw o’r Eglwys yn awr ac eilwaith.
Oddeutu y flwyddyn 1875 noddodd yr
Eglwys alwad pregethwr ieuanc, y parch J.R Jones yn awr o Langristiolus, Mon i ddyfod
i ymfugeilio a bu yn llafurio yn llwyddianus yn ein mysg am flynyddau. Wedi hynny symudodd
i Dublin a tha bu yma penderfynasom dynnu yr hen
gapel i lawr ac adeiladu capel a ty newydd perthynol iddo, ac yn 1878 gorphenwyd
y cwbl ar gost o’u gwneyd tua £900 a chasglwyd at eu talu o gewri Pencaerau
cyn ei agor tua £500 a talwyd wedi hynny £100 arall yn fuan a £50 wedi hynny
fel nad oes o ddyled yn awr yn 1891 ond £250 i ddychwelyd.

Ym Medi 1883 rhoddodd yr Eglwys alwad i bregethwr ieuanc eto
i’w bugeilio, y Parch R Williams o Portnant, cydsyniodd
yntau ar medi 83 a bu yn llafurio yn ddiwyd yn ein mysg ac ar tachwedd 1889
derbyniodd alwad i fugeilio Eglwys Rome yn America, pa le yn awr y llafuria yn
llwyddianus a chymeradwy iawn. Ar ol marwolaeth Robert Williams Penrhyn ganol a
William Parry Penycaerau nid ydoedd yma ond un diacon sef y brawd Thomas Shop-mab
i Thomas Owen Felin Uchaf y cyfeiriwyd ato eisioes, yr hwn a dderbyniwyd yn
ddiacon yr un pryd a William Parry Penycaerau yn 1867 ac sydd wedi ac yn bod er
yr amser hwnnw yn golofn gref i’r achos ym mhob rhan o'r gwaith. Daeth ef a’r
Eglwysi i’r penderfyniad y byddai yn ddoeth cael ychwaneg o swyddogion ac yn
chwefrof 1886 dewisodd yr Eglwys dri brawd arall yn swyddogion sef Thomas Rice
Ysgo, Thomas Jones Bodrydd a John Griffith Shop a da gennym allu dweud wrth
derfynu fod y gwaith yn myned rhagddo yn araf yn ein dwylo ond er hynny yn unol
mae, a phenderfynnol o fynd ymlaen nes cymerir ninnau eto i ffwrdd i roddi lle i
genhedlaeth arall sydd yn dyfod.Pared i’r Arglwydd na byddo crefydd Iesu Grist
ddim yn is yn ein dwylaw nac y cawsom hi gan ein tadau, ond y byddwn yn cael
pleser o gyflwyno y gwaith ar y terfyn i’n halafiaid a gwedd llawer mwy
llwyddianus a blodeuog arno nac erioed.
Ail argraffiad gan, R.H Roberts Geufron
Mai 13 1973.
Diolch i Mrs J Hughes
Jones am fenthyg y gwreiddiol.
|