Capel Galltraeth

Mae Capel Galltraeth erbyn hyn wedi mynd yn adfael bron ond mae’r fynwent yn cael ei chadw yn bur daclus, ac yn y fynwent yma mae beddau dau frawd a gafodd ffrae mor ddifrifol nes treulio blynyddoedd hyd ddiwedd eu hoes heb ddweyd gair wrth y naill na’r llall, er eu bod yn byw yn yr un ty sef Mountain View, ac yn addoli yn yr un capel, sef Galltraeth. Mae y capel yn mynd yn ol ymhell iawn, capel y Bedyddwyr oedd, ac’roedd addoli yma cyn codi capel Bethesda Rhoshirwaun, ac mae hwnnw wedi ei godi yn 1904 ar safle capel oedd yno cynt. Cerddai pregethwyr o Langian i gapel Galltraeth bob Sul, ‘roedd hyn yn golygu taith o bum milltir un ffordd heibio Neigwl Plas, Llandegwning a Gelliwig, ac arferai Mrs Annie Hughes, Bronllwyd Bach, wneud te iddynt, i’w helpu ar ei ffordd.

Caed pregeth un Sul y mis fel rheol yn y blynyddoedd dwytha, a tua’r diwedd dim ond y ddau frawd fyddai yn mynychu y gwasanaethau, Griffith Jones yn cymryd y gwasanaeth ac yn codi canu, yn y set fawr, a’i frawd Watkin Jones yn y set gefn un yn y gynulleidfa, a’r gwasanaeth yn mynd yn ei flaen yn hollol naturiol.

Roedd Watkin Jones yn broffwyd tywydd heb ei ail ac fe’i gwahoddwyd i drafod y pwnc ar y radio, peth go anghyffredin y dyddiau hynny. Griffith Jones oedd y canwr, a gan na fuo organ yn y capel erioed,’roedd yn dibynnu ar fforch draw (tuning fork). Trwsiai dai ac adeiladau a chymerodd ar ei hun y gwaith o gadw y capel mewn “ripars”. Un o’i gyfrinachau wrth wneud concrid oedd cael baw gwartheg i’w gymysgu i mewn, ‘roedd yn rhaid ei gael. Barddoni oedd dawn oedd yn feistr arni, a’i enw barddol oedd “Ehedydd Mai”.

Mae cof i aelodau Capel Tyddyn ddod yma i gyd addoli am rhyw bythefnos neu dair wythnos yn ystod yr Ail Ryfel Byd, tra roedd eu capel yn cael cot o baent.

Watkin Jones farwodd gyntaf yn 1942, a defnyddiwyd car a ceffyl siop Brynllan Bryncroes ar gyfer yr angladd, car a arferai gario nwyddau a negeseuau o’r siop ac o bosib cario o Bwllheli. Oed Watkin Jones oedd 78. Mae hanes dipyn bach yn gyffrous i Griffith Jones, roedd ganddo ddau gi, daeargi bach ffyddlon a’i dilynai i bobman, a chi arall ffyrnig a pheryglys iawn na fyddai byth yn cael ei adael yn rhydd. Rhyw nos sadwrn o aeaf, aeth Griffith Jones i Dyddyn Siencyn, sydd heb fod ymhell i ‘mofyn tatws, a’r daeargi efo fo wrth sgwrs,’roedd wedi dechra pluo eira pan oedd ar ei ffordd yno, ac yn dal ymlaen pan drodd am adra ar ol peth ymdroi. Bore drannoeth, gwelodd y cymdogion y daeargi yn rhedeg yn ol a blaen rhwng Mountain View a hanner ffordd ar hyd y lon bach, ac ar ol mynd i weld beth oedd yn bod canfuwyd Griffith Jones yn farw yn yr eira.

Rwan ‘roedd angen mynd a corff y brawd i mewn i’r ty ond gan fod cwt y ci ffyrnig mor agos a’i gadwyn mor hir fel y gallai ddod i’r llwybr oedd yn arwain i’r ty, fentrai neb yno. Galwyd ar heddwas a Richard Hughes Bronllwyd Bach (gan fod ganddo wn), gyda’r bwriad o saethu’r ci pan ruthrai allan, ond am ryw reswm (ogla gwn medd rai) ni fynnai symud o’r cwt, yn y diwedd bu raid tynnu llechi oddiar y to, a’i saethu o’r fan honno. ‘Doedd yr helynt ddim trosodd eto, gan ei bod yn parhau i fwrw eira dydd yr angladd, gyda allt serth i lawr o Mountain View i gapel Galltraeth, felly, ‘roedd ofn y buasai y cert a’r arch yn bwrw i gaseg Bronllwyd Bach, a’r cwbwl yn mynd i bob cyfeiriad. Y diwedd fu cael rhaffau wrth y drol a’r cymdogion yn dal yn ol ar y ffordd i lawr. Gaeaf 1944 oedd hyn ac ‘roedd Griffith Jones yn 74 mlwydd oed.

capel_galltraeth.JPG (85671 bytes) 

"Capel Galltraeth Heddiw"

Cauwyd y capel tua 1949, a defnyddiwyd y llechi a’r ffenestri i adeiladu a thrwsio rhai o’r tyddynod o gwmpas. ‘Does dim cyfrif lle mae y pulpud na’r set fawr. Bu tipyn o gynnwrf ar y pryd, gan fod rhai seiri yn gwrthod mynd i mewn i’w tynnu lawr, am fod y lle yn gysegredig. Bu raid i’r cyflogwr ei hun wneud y gwaith yn y diwedd.

Llun o Gapel Galltraeth gan Mr W Williams.

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com