Dy fywyd yw atgof melys,
Dy farw yn hiraeth dwys.
~~~~~~~
Blodyn bach heb lwydni byd
(Baban chwe mis)
~~~~~~~
Ar ei ol paham y wylwn- ei enw
Wr hynaws a barchwn:
Daw y pryd y cyfyd cofiwn
I le uwch haul ei lwch hwn.
~~~~~~~
Ei phlant a godant ac a'i
galwant yn ddedwydd,
Ei gwr hefyd
ac a'i canmol hi.
~~~~~~~
Yr hon a wynebodd angau a'r glyn tan ganu.
~~~~~~~
Hyd oni wawrio'r dydd
A chilio o'r cysgodau
~~~~~~~
Coffawdwriaeth y cyfiawn
Sydd fendigedig.
~~~~~~~
O Iesu mawr y meddyg gwell
Gobaith yr holl ynysoedd pell
Dysg fi seinio maes dy glod
Mai digyfnewid wyt erioed.
~~~~~~~
Enw da hwn a'i ddiwedd
O gor byw ni ddryga'r bedd.
~~~~~~~
Gwel uwchlaw cymylau amser
~~~~~~~
Digonaf ef a hir ddyddiau
A dangosaf iddo fy iachadwriaeth.
~~~~~~~
Bywlechi wnaeth John, fel blodyn tirion,
Ond torrwyd ef wedyn,
Iesu a fu yn torri'r rhosyn
I'w roddi i'w Dad o ardd dyn.
~~~~~~~
Heddyw! Catherine Mary Eiddien- mundlos
Mewn dulwch daearen:
Ond daw rhyw ddydd yn llawen
O gwsg oer yn ei gwisg wen.
~~~~~~~
O distewch derfysglyd donnau
Tra fwy'n gwrando llais y nef.
~~~~~~~
Peidiwch wylo melus cofio
Tawel huno maent mewn hedd.
~~~~~~~
Amser a dreigla
Ond hiraeth a erys
~~~~~~~
Aeth o ganol y pethau- heb waeledd
Heb elyn ond angau,
Ein hiraeth drwy'r gororau
Ar ei ol sydd yn parhau.
~~~~~~~
Hiraeth yw anadl cariad.
~~~~~~~