Gwed waeled saled fy
seler-Ystyr
I ostwng dy falchder:
A chofia ddyn iach ofer
Nad oes I fyn ond oes fer.
~~~~~~
Ar ol ei holl flinderau dwys
Gorffwyso mae mewn hedd
Ymhell o swn y byd a’i bwys/
Heb boen yn llwch y bedd.
~~~~~~
Daeth yr awr i’m ddianc adref
Draw o gyrraedd pob rhyw gur
Gwelaf dorf o’m hen gyfeillion
Draw ar lan y ganan bur.
Yno caf fi weled Iesu
Fyth i’m lloni heb un llen
A chaf yno ei gladfori
Fyth heb dewi mwy amen.
~~~~~~
Gonest fu hwn ac annwyl- dymunol
A mwyn ymhob gorchwyl:
Llawn deall, un call a gwyl,
O! Hiraeth, cofio’i arwyl.
~~~~~~
Lowry oedd fwyn lanaidd fenyw-
huno
Er henaint mae heddyw:
Nos adeg einios ydyw
A noswyl faith nes ail fyw.
~~~~~~
Di gyngor y dwg angau – Bod
oedran
I bydru fel finnau:
Ystyr hyn, o briddyn brau
Gwel dy daith gwael doi dithau.
~~~~~~
Ochain na llais afiechyd – mwy
nid oes
Mewn distaw fedd priddlyd
Wele ddau anwylyd
Dan un gwys o bwys y byd.
~~~~~~