|
|
Tylwyth Teg Rhiw gan Rhian
Evans Pan
oeddwn yn blentyn bach ( tua pedair neu bump oed) yn byw yn Conion, byddai Nain
Conion ( Mary Hughes) yn dweud llawer o straeon wrthyf ac yn eu mysg straeon y
Tylwyth Teg.’Roedd Rhiw yn frith o’r Tylwyth Teg medda hi. "Mary Hughes" ‘Roedd
craig ar y mynydd tu cefn i fferm Conion( Mynydd Bodwyddog) a gallem fynd i
eistedd o dan y graig i chwarae a chael picnic gan ei fod yn dod allan fel pig
cap uwch ein pen. Mae’r lle mor braf yn edrych i lawr ar Borth Neigwl –
golygfa fendigedig. Ar waelod y graig ‘roedd crac a llifai dwr yn ysgafn i
lawr ar hyd craig hollol lefn i;r gwellt, o’r crac. Os rhoddech eich clust yn
agos i’r graig clywech swn cnocio, a byddai nain yn dweud mai cryddion y
Tylwyth Teg oedd yno a’u bod yn brysur yn gwneud esgidiau.’Roeddent hefyd,
medda nain, yn gallu gwneud tlysau efo holl ddannedd plant y cylch. ( Pan fyddem
yn colli dant byddem yn eu rhoi o dan y gobennydd yn y nos, ac erbyn y bore
byddai’r Tylwyth Teg wedi bod yn eu nol. Ac wedi gadael chwecheiniog gwyn yn
eu lle!) Dywedai
nain fod y Tylwyth Teg yn dod i nol menyn a llefrith ganddi hi. Byddai yn eu
rhoi allan ar y rhiniog gyda’r nos ac erbyn y bore byddent wedi mynd. Mi
fyddai nain yn cael clocsiau ganddynt, am y bwyd! Ym Mharc
Meillionydd, tir gwlyb yn ymyl tir Conion, ‘roedd Cylch y Tylwyth Teg. Aeth
nain a fi yno i’w weld, ac’roedd yno gylch o wellt gwyrdd ffrwythlon, llawer
gwyrddach na’r gwellt o’i amgylch.’Roedd y cylch tua dwy lath ar draws ac
fel ‘clawdd terfyn’ o’i gwmpas, yn hollol grwn, tyfai blodau’r dwr piws
gwan (lady’s smock) Yno y byddai’r Tylwyth Teg yn dawnsio yng ngolau’r
lleuad medda nain.’Roedd yn hynod brydferth a gallwn ddychmygu y Tylwyth Teg
bach yno yn dawnsio.
‘Roedd
fy nychymyg mor fyw fel y credaf imi weld un o’r Tylwyth Teg ar y mynydd un
diwrnod. Byddwn yn byw ac yn bod ar y mynydd, yn chwarae o hyd, ac ar y diwrnod
arbennig yma’roeddwn yn cychwyn yn ol adra pan welais rywbeth coch yng nghil
fy llygad. Troais fy mhen ac yno yn y rhedyn, roedd dyn bach tua troedfedd
o daldra yn sefyll mewn siwt a chap coch, am ei draed roedd bwtsias duon a
rheini yn sgleinio. Edrychodd arnaf am eiliad ac yna troi a diflannu yn y rhedyn.
Wnes i erioed redeg mor gyflym yn fy mywyd!’ Roeddwn yn teimlo mor gyffrous ond
doedd arna i ddim ofn o gwbl, a wnes i ddim anghofio y dyn bach coch. Byddai
Wendy, Min y Don a fi yn mynd i’r creigiau i chwarae yn aml. Yno mae Bwrdd y
Tylwyth Teg – carreg fawr hollol fflat. Byddem yn mynd i eistedd arni a
dawnsio hefyd. Byddaf yn dal i fynd yno weithiau i gael picnic gan ei fod yn le
mor braf. ~~~~~~~~~~~~~~~~~ Diolch i
Rhian Bodgrugyn am yr atgofion melys yma o Dylwyth Teg y Rhiw.
|
|
Copyright © Rhiw.com |