|
|
Plant Rhys Ddwfn, Ar ynys yng nghanol Bae Ceredigion rhwng Llyn A Sir Benfro roedd y tylwyth teg yn byw. Pobol fychan golygus oedde nhw ac fe’i gelwid yn "Blant Rhys Ddwfn". Byddai Plant Rhys Ddwfn yn ymweld a’r tir mawr o bryd i’w gilydd yn enwedig i’r farchnad a gynhelid yn Nhre Heli yn yr hen amser. Welai neb mohonnyn nhw yn cyrraedd nac yn mynd oddyno ond fe’i gwelwyd yn prynu llawer o bethau yn y farchnad. Roedd ganddynt bob amser ddigon o bres a doedden nhw byth eisiau newid. Mi fyddan nhw hefyd yn dod drosodd i’r tir mawr i brynu yd gan y ffermwyr. Dim ond ar adeg niwl fydde nhw yn dod drosodd a chredid mai nhw oedd yn gyfrifol am godi’r niwl, rhag ofn i bobl weld o ba gyfeiriad y daethant a darganfod eu hynys.
Weithiau gellid eu gweld yng nghaeau Conion ac ar Glip y gylfinir, cannoedd ohonyn nhw yn mwynhau eu hunain yn dawnsio a canu. Ond os aech yn rhy agos mi ddiflanai’r tylwyth teg a’r oll oedd ar ol oedd canu hudolus swynol yn atsain yn yr awel.
Unwaith cafodd dyn ei swyno ganddynt ac aeth y tylwyth teg ag ef i’r ynys hudolus lle roeddynt yn byw. Pan gyrhaeddodd ac agor ei lygaid gwelodd ynys wastad, ffrwythlon yn llond o drysorau ym mhob cwr iddi. Wedi gweld rhyfeddodau a gwyrthiau lu aeth y tylwyth teg ag o yn ol a’i adael yn nrws ei fwthyn yng nghyd a llwyth o anrhegion a gawsai ganddynt, a bu iddo gael bendithion weddill ei oes. Felly cofiwch wylio allan am "Blant Rhys Ddwfn" ac ella cewch chithau fendithion a thrysorau lu!!!
|
|
Copyright © Rhiw.com |