The_stewart.jpg (105720 bytes)

Drylliad Yr Agerlong ‘Stuart’

  Ym Mhorth Ty Mawr Hebron Llyn.

( O Hen Gerddi Llyn)

 

Y niwl orweddai fel hunllef breuddwydiol

   Dros wyneb y weilgi aflonydd yn awr,

Tra’r ‘Stuart’ a deithiai ymlaen yn ddireol

   Nes taro’n ddirybudd ar draethell Ty Mawr;

Y dwylo fel gwylliaid i’r badau ffoisant

   Gan rwyfo’n gynhyrfus i ganol yr aig,

Gan ofn a dieithrwch y fangre, gallasant

    Gael bedd yn yr eigion yn ymyl y graig.

 

Y llestr ysblenydd fel palas ardderchog,

   Orweddai yng nghyrraedd yr eigion a’r gwynt,

Tra’r tonnau yn rhuthro mewn ysbryd cynddeiriog,

    Wrth ymlid ei gilydd i’r lan ar ei hynt;

Dan bwys rhyferthwy y llestr ysigodd,

    Gogwyddodd fel meddwyn i ddyfnder y mor;

Gan rym yr elfennau ei mynwes agorodd,

   Gan ddangos i gannoedd o gynnwys ei stor.

 

Y nwyddau a gariwyd ym mreichiau y tonnau,

   Nes britho y glannau o amgylch y fan,

A throi yn ystordai wna celloedd y creigiau,

    I’r lladron anniwall a wylient y lan;

‘Roedd rhaib yn gorfodi’r ymwelwyr i ruthro

     Fel bleiddiaid gwallgofus heb ofni’r un dyn,

Ac erys yr hanes yn hir-hir heb gilio,

     Gan dduo cymeriad preswylwyr gwlad Llyn.

 

Y gwinod er syndod oedd gwrthrych edmygedd,

    Y lliaws a ddenai i olwg y traeth,

Ac o dan ddylanwad eu chwantau diddiwedd,

   ‘Roedd llawer yn llyncu nes myned yn waeth;

Ai tybed mai’r diafol gadd genad i anfon

    Y ‘Stuart’ i’w dryllio er profi y wlad?

I ddandos egwyddor a phroffes anghyson

   Fel gwe pryf copyn heb rym na pharhad.

 

Mae’r tonnau digofus a’u nerthoedd herfeiddiol

    Fel wedi ymrwymo i’w dryllio bob darn,

Mae’r eiddo fwriadwyd i ddyn yn ddefnyddiol

    Dan draed hyd y creigiau yn myned yn sarn;

Amrywiaeth diderfyn o nwyddau ardderchog.

     Gwerth miloedd ar filoedd o bunnau dirif,

Aberthwyd ar allor yr eigion trochionog,

    Er hyn, ni ddigonwyd hen elfen y llif.

 

Fe erys yr hanes fel cwmwl i hofran

  Yn awyr atgofion trigolion Penllyn,

I lawer ‘roedd pleser yn llanw y cyfan

   A mantais dywyllodrus’n cyd-drigo’n gytun;

Ond yno, gonestrwydd a gollodd ei goron,

    A sobrwydd anghofiwyd yn llwyr gan y llu,

A pharch roed i huno ym medd ebargofaint,

   Ac ar ei fedd wyla rhinweddau mewn du.  

                                            John Owen.

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com