|
|
Y Stuart.
Aeth llestr fawreddog o Lerpwl I drwbwl os coeliwch yn awr, Yn raddol fe’i gwnaethpwyd yn sgyrion A’r greigiau melynion Ty Mawr. Barck hardd ydoedd Steward rhaid cyfarch Yn edrych fel alarch ar lyn. Ond creigiau Llangwnadl er syndod A wnaethant eu difrod bryd hyn.
Yn chwim am New Zealand cychwynnodd Gan rwygo’r dwfn ddyfroedd mewn pryd; ‘Rol gadael goleudy Caergybi Ni wyddai’r hen ‘Lady’ ddim byd Pa fan na pha gwrs oedd i sefyll, Aeth hyn iddi’n erchyll o dasg, Fe’i taflwyd fel hwch ar y creigiau Cyn toriad gwawr boreu Sul y Pasg.
Roedd ganddi gryn stor o fendithion A llu o anrhegion er llwydd, Bu wythnos neu ragor yn gyndyn I’w rhannu ag undyn yn rhwydd. Ond Dafydd Jones druan a flinodd. Fe stripiodd yn llwyr ar y crys, “Fe gel di gyfrannu’rhen baenes Gryn doreth o’th garcas ar frys”.
Dechreuodd ei dyrnu’n gynddeiriog Gan godi’n odidog ei don – “Dewch allan i gyd fel erryrod Cewch gennyf gryn gardod o hon!” A dacw hi’n esgor er syndod Ar lu o’i herthylod mae’n siwr, Gan nofio’n brith drafflith fel adyn I bobman dros wyneb y dwr.
Pan welwyd ar draeth Pothffesig Mewn arddull gythreulig ddi-barch? Ar gwr gwerglodd Trefgraig caed rhywun Yn edrych fel corffyn mewn arch. Wyth arall yn yfed yn enbyd Mewn agwedd dra chwstlyd a blin Nes aethant yn hynod ddi- madferth Gan doraeth rhy drwm o’r hen win.
Pwy oedd y llanc hwnnw fu’n addaw Y llyncai y gasgen bob dafn? Ai gresyn na fasai e’n berchen Fel morfil, ryw globen o safn. Pwy welwyd yn Twllgi ‘run noson A balch o ‘Syr John’ ar ei gefn? Ni chafodd ond aflwydd medd rhywun, A’i daflu fel meddwyn di – drefn.
Pwy aeth yn gyd sgarog a phedwar I guddio eu llawnder mewn llwyn Ar ol ei gyfodi o’i feddrod Er syndod o waelod Porth Brwyn ? Roedd tri o’r rhai hyn yn broffeswyr A dau yn rhagrithwyr i’r gwraidd; Beth ydoedd meddyliau’r hen deulu Wrth sbeilio’r poteli chwys haidd ?.
Pwy oedd y ferch ieuanc lon wisgi Fu’n mynnu’r poteli trwy drais A dodi’r rhai hynny yn ddiau O fewn i hen gluniau’i chlos pais? Y closyn ollyngodd ar fyrder Y licer er llawnder i’r llawr Gan fyned yn afon fain felen Dros draethell Porth fechan Ty Mawr.
Dau flaenor gwir fawr fel byhemoth Fu’n cario cyrn oil-cloth ‘run pryd, Dau ddieflyn mewn gwyneb galedwch Yn dangos moesgarwch i’r byd! Un arall a welwyd yn gorwedd Yn farwaidd wrth lidiard Penllwyn Cadd wely gwlyb noswaith chwi wyddoch A chlamp o farc coch ar ei drwyn.
Pwy welwyd yn cario cryn lawnder O lestri ar fyrder i’w tai? Mae’r enwau’r rhai hyn yn dra hysbys A’u hanes yn warthus gan rai. Pwy oedd y lodesi ffraeth ddoniau Fu’n lledu eu cliniau nhin clawdd ? Roedd rhywun wrth glywed eu miri Yn adwaen y rheiny’n dra hawdd.
Sawl corgi fu dan operation Gan feddyg dros noson ynghyd? Sawl un a ganfyddwyd yn Rhosnant Yn gorwedd mewn paent yr un pryd? Pwy oedd y gwr hwnnw a gariwyd Mewn cerbyd garlamwyd i’r Nant Rhag iddo greu mwstwr mewn medd dod A dychryn rhyw briod a’i phlant?
Bu yno rai cannoedd yn cario A herio’r heddgeidwaid bob un; Mae hyn yn arddangos chwi welwch, Iselder moesgarwch gwlad Llyn; Diwygiwch i gyd o hyn allan Na fathrwch orchymnion Duw’n sarn; Mae cyfnod mawr iawn yn ein haros I ymddangos ger bron yn Nydd Barn. ~~~~~ Baled gan Gwilym y Rhos.
|
|
Copyright © Rhiw.com |