|
|
"Talu dyled y capelydd" Talu’r
ddyled ydyw’r testun Ac
mae’n destun cymwys iawn. Talwyd
dyled byd yn gyflawn Ar
Galfaria un prynhawn. Do
bu awdur byd a bywyd Yma
heb le roi ben i lawr Talu’n
dyled ni rai euog Dyma
wnaeth yr Iesu Mawr. Dioddefodd
ein cyndadau Cyn
ein geni ni i’r byd, Gan
elynion a gormeswyr Ein
rhyddid gostiodd daliad drud, Cerdded
wnaethant am filltiroedd Foreu
Sul i dawel fan I
addoli gyda’u gilydd A
phob un yn gwneud ei ran. Gan
i’r tadau ddioddef gymaint Er
agoryd ffordd i ni I
addoli mewn rhwyddoldeb ‘R
hwn fu farw ar Galfari. Ymwrolwn
na orffwyswn Byddwn
unol gwnawn ein rhan Fel
gall pob eglwys ddywedyd Nid
yw’r arnai’n sarn. Nid
tylodi sydd yn peru Fod
eglwysi’r uchel Dduw A
dyled arnynt bron a’i llethu Ond
diffig sel ac undeb yw. Mewn
unoliaeth y mae nerth Eglwys
sydd yn rhydd o ddyled Nid
oes fesur ar ei gwerth. Cofiwn
waith a wnaeth yr eglyws Cofiwn
am ei haberth hi Cofiwn
am y llu merthyron Gollasent
drosti waed yn lli, Arnom
ninnau’n gorffwys eto I
gael eglwys Dduw yn rhydd. Gwyliwn
fel Ananeias A
Seppheira ers llawer dydd. Pan
apeliodd y llywodraeth Am
ei harian hyn yw’r gwir Yr
oedd pobol wrth y cannoedd Yn
cyfrannu ym mhob sir. Mae
Eglwys Dduw yn talu yma Yn
can cymaint medd y gair Ac
yn y byd a ddaw ceir gwledda Gyda’r
gwr fu ar lin Mair. ~~~~~~ Yr
wyf i Griffith Thomas wedi gwneud hon er y flwyddyn 1918. (
Yng ngefn dyddiadur 1931)
|
|
Copyright © Rhiw.com |