|
|
"Taith i Uwchmynydd" Cychwynais
gyda’r ‘Crosville’ Rhwng
hanner dydd ac un, Trwy’r
Sarn a thrwy Rhoshirwaen, I
gyrrion pella Llyn; Roedd
gweled pentra Daron Yn
newydd beth i mi. A
gweled yr hen Eglwys Hynafol
iawn ei bri. Edrychais
ar y fynwent Sydd
bron ar fin y dwr Mae
ynddi lu yn gorwedd Yn
dawel a di-stwr; Gadewais
Aberdaron Oedd
yn y pant islaw Gan
alw yn ffermdy Deunant Ces
groeso di ben draw. Cychwynais
yn hamddenol A
ffon o dan fy llaw, At
ardal Uwchymynydd Rhyw
filltir deirgwaith draw; Gan
adael Capel Deunant Lle
cerddodd llawer sant, A
hithau’r ysgol ddyddiol I
ddysgu moes i’r plant. Gwnes
ddefnydd o fy neudroed, A
chroesi afon Saint Mwynhawn
y fath olygfa A
theimlwn hynny yn fraint; Ar
lethrau Mynydd An’log Sef
cyrrin pella’r plwy, Mae
llu o fan dyddynod Rhyw
dyddyn buwch a dwy. Eis
heibio i dai Bryn Chwilog Ar
greigiau cadarn iach, Pwll
Defaid ‘ nghyda a Dyras Ac
Ystolhelyg Bach Y
syndod mwyaf gefais – ‘Rwy’n
awr yn dipyn oed, Oedd
gweled y fath gyfandir Mor
hynod o ddi goed.
Ianto Soch.
|
|
Copyright © Rhiw.com |