|

|
"Gadawsant
feusydd tawel Llŷn,
Yng ngofal Duw, yr hen a’r gwan," |
|
~~~~~~~

|
‘ Roedd Ewrob gain heb lyw’n ei gwaed,
A gwewyr ei gwallgofrwydd hi
A daniodd nwyd ein meib dinych, -
Nid ofer swyn milwrol fri.
Dros eraill aethant, ddued oedd,
I ferw’r trinoedd dros y lli,
|
 |
 |
Gadawsant feusydd tawel Llŷn,
Yng ngofal Duw, yr hen a’r gwan,
A breuddwyd gwyn oleuai’u trem
Wrth gychwyn draw i wneud eu rhan ;
Ond trist fu’r antur lawer dydd
‘R ol gadael gwŷdd, a gadael glan.
|
|
Trwy ddwr. a thân, a marwol nwy
Ymladdai rhai o ffos i ffos ;
A brwydrai eraill ar y don
Mewn stormydd draw o nos i nos ;
A rhoi y cwbl a fu eu rhan
Cyn cyrraedd glan eu Gwalia dlos.
|
 |
 |
Wrth borth y fynwent ar y bryn, -
Eu mynydd hwy a chrud eu hedd,
Saif colofn unig dystia’n fud
Nad yno mae eu dinod fedd ;
Wrth gofio’r gemau sy’n y llaid
Cynhyrfa’m henaid ; gwrida’m gwedd.
|
|
Ni cherddant mwy’r hen lwybrau gynt,
A’u lle sydd wag o gylch y tân ;
Ni chanant hen emynau mwy,
Na thelynegion Cymru lân ;
Ni chlywant hudol swn y don,
Na cherddi llon yr adar mân.
|
 |
 |
Ond ni heneiddiant fel nyni ;
Yn angof nid â’r cedyrn hyn ;
A thrwy’r canrifoedd treiddio wna
Eu cennad friw yn nrysni’r glyn.
Gweddiwn ninnau wedi’r drin
A wybod rhin eu breuddwyd gwyn.
R.H.
Griffith. |
***********

************
Diolch yn fawr i Mr M Williams, am y gerdd goffa yma.
|