|
|
"Regatta Aberdaron" ****** Fe wawriodd dydd RegattaYn braf, a brisin iach, ‘Roedd hwn yn ddydd ardderchog I wneud Regatta bach. ****** Daeth yr holl gychod allan O’r Borth dan hwyliau mawr' Pob un ond cwch Llyshyfryd A gafodd gam go fawr. ****** ‘Roedd un “Outsider” yno Sef William Jones Safn Pant, Fe rigiodd yntau’r Menna Am gwpan hardd Durant. ****** Daeth pawb yn nes i’w gilydd I gychwyn ar y ras, Y Bwgan, Don a Betty I hwylio’r cefnfor glas. ****** Y Laura, Cadlan, Mandy, A Nellie ddaeth o Rhiw, Ond Wil aeth i Landdona Nid oedd yn ddigon triw. ****** Daeth Cadlan, cwch ‘rhen Eddie Yn gyntaf yn y ras, Er fod ‘rhen Domi Gwelfor Yn gwasgu arno’n gas. ****** ‘Roedd Eddie ar ben Rodyn A gwên oedd ar ei rudd, Wrth weld ei gwch yn symud Ac yna’n cario’r dydd. ****** A Lena yn y fflagship Yn gweiddi hip hwre, Twm Gladstone tn cael trafferth I’w chadw yn ei lle. ****** Daeth Vaughan i fewn yn drydydd Gan drechu Huw a Twm, Mae’n rhaid fod pwysau’r hogia Yn gwneud y cwch yn drwm. ****** Mae cwpan ‘nawr gan Eddie Ac un gan Evan John, Gobeithio’r flwyddyn nesaf Ceiff Vaughan un gyda Don. ****** Cyn i mi ‘nawr derfynu Rhaid son am Thomas Glyn, A hoffwn roi ei gwpan I’r Bwgan du a gwyn. ******* Meg Williams, Bryngoronwy.
|
|
Copyright © Rhiw.com |