"Pen Draw’r Byd"

 

Troi trw Uwchmynydd a’i lonydd bach cul,

Lle mae Amser bob amser yn b’nawn dydd Sul.

 

A’r tylwyth fel eu teios, yn hoff ac yn hen,

Yn araf eu gwg ac yn araf ei gwên.

 

Nes dyfod ohonom ym mhen draw Llŷn

At ddarn o rostir maith, di-lun.

 

Dyna’r motor yn dringo ffordd goncrid yn awr

Tua safle’r megnyl ar Fynydd Mawr,

 

Dringo tan ganu rhyw bwt o gân

Lle mae’r grug yn tyfu trw’r eithin mân.

 

Rhwng banciau o borffor ac aur yn stôr ;

Ac yn sydyn odditanom dim ond y môr,

 

Môr a môr at y gorwel a’i hud,

A ninnau wedi cyrraedd pen draw’r byd,

 

A’r wybrwn o’n hôl yn denu a chlir

Ar fynyddoedd chwe gwahanol sir.

 

Safem fan honno ar Fynydd Mawr

I wylied haul Llŷn yn mynd i lawr.

 

Dal ein hanadl heb yngan gair,

(Fel y Saint ar ôl yfed o Ffynnon Fair).

 

Gan deimlo fod Enlli a’i santaidd byrth

Fel Gair yr Arglwydd yng nghanol y wyrth,

 

A’r machlyd ar orwel y môr di-ffin

- Fermiliwn,  fioled,  oraens  a  gwin-

 

Fel drws yn agoryd i ganol nef,

Lle mae enfys o gylch Ei Orseddfaic Ef

 

Dros Fôr o Wydyr ........ Ond pwy ydwyf fi

I ddatod seliau’r Datguddiad i chi ?

 

Os mynnwch ddal bendith y machlud eich hun,

Ewch yn yr ysbryd i Ben draw Llŷn.

 

                        Cynan. (1969)

Syr Cynan Evans Jones

1895~1970.

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com