|
|
"Myfyrion wrth windio’r Cloc Mawr"
Bob nos Sawrn ‘rwyf
yn windio’r
Hen gloc mawr yn olaf dim.
Wrth im wneud yr wyf yn cofio
Fel mae f’oes yn cilio’n chwim.
Tra yn troi dy bwysau i fyny
Deffy atgof dyddiau fu
Trof i dremio i’r dyfodol
Ofnaf ei gymylau du.
Cofio’r dwylo fu’n troi’r goriad
Cyn fy ngeni i i’r byd
Wrth dy windio’r hen Wythniwrnod
Rhifaist tithau’n dyddiau i gyd.
Tician oeddit nos y’m ganwyd
Ticiaist gyfyng awr fy Mam
Ticiaist flwyddau ei thrafferthion
Ticiais idd’ ei holaf lam.
Llaw fy nhad fu yn dy windio
Dros chwedeg o flwyddi clir.
Melys dic – hwy aethant ymaith
Ticiaist ef i’w gartref hir.
Ar ba awr y bydd dy fysedd
Pan ddaw f’einioes frau i ben
Pwy fydd eto yn dy windio
Pan af i ‘tu hwnt I’r llen’?
Byddi di yn cadw amser
I fy mhlant tra ar eu taith
Tician wnei eu horiau llawen
Tician pan fo’u grudd yn llaith.
Enw gwr sydd ar dy wyneb
Gwr a’th luniodd ydoedd ef
Nid oes neb yn cofio hwnnw
Aeth ers oesau tua thref.
Ond ‘rwyt ti yn dal i dician
Er rhoi hwn a’r llall mewn hedd
Dweud y wyt heb dderbyn wyneb
Byddwch barod, bawb, i’r bedd.
Hyd dy lein sydd wythnos union
Sicrwydd hyn sydd gennyt ti.
Hyn wy’n ofyn wrth dy windio – Faint fydd hyd fy llinyn i? J.T. Williams (Tad Tom Nefyn)
|
|
Copyright © Rhiw.com |