Hanes llong aeth ar  creigia  ger Rhuol yn 1865.

 

Y Long india corn

 

Aeth llestr fawr o Austria

Ar greigiau Rhiw yn ddryllia,

Ac India corn oedd ynddin llwyth,

Yn gruglwyth dros y creigia.

 

Fe gariwyd corn yn ddirgal,

Gan amryw yn yr ardal,

A berwi hwnnwi fwydor moch

Chwi wyddoch am eu cowdal.

 

Daeth allan rhyw hen seiffar,

Hi gipiodd tegell copar,

O dan ei phais yn ddigon siwr,

Hwn ddaliai ddwr gryn lawer.

 

Waeth imin awr derfynu,

Ni ddof i ben i ganu,

Am hanes lladron llong y Rhiw,

Sy heddiwn fyw rwyn credu.

                                          William Jones.

~~~~~~~~~~~

 

Map or Safle                Website Map

Copyright Rhiw.com