|
|
Yr
Olwyn Ddŵr Cofiaf
hi dan genlli gwyn – a dŵr gwyllt Ar
ei gwar yn disgyn; Heddiw
i’w chafn tyfodd chwyn, Rhydodd
mewn drain a rhedyn. ~~~~~~~~ Cwmystradllyn O
gyfeirio’r goferydd, - rhannu gwin Mae’r
hen gwm ysblennydd, A
rhoi mwynaf ddŵr mynydd I lawr gwlad yn rhad a rhydd. ~~~~~~~~~~ Sgert
Mini Efa’r
ardd, fe’i cofir hi – a deilen Hudolus
amdani; Un
sy’n hoff o’i ffasiwn hi Yw
meinwen mewn sgert mini. ~~~~~~~~~ Diolch yn fawr i Mrs G Sol Owen. |
|
Copyright © Rhiw.com |