S.O.S.

Os oes merch o Lỹn yn cwyno

Am fod annwyd ar ei dwylo,

Y mae pâr o fenig diddos

Yn y lori laeth ers wythnos.

 

Wedi i rywun gadw reiat

Un nos Iau wrth ddod o’r seiat,

Yn yr hwyl o dan yr helyg

Gellai meinwen golli menig.

 

Heno’n llawen dan y lleuad,

Mae rhyw chwaer ym mreichiau’i chariad

Ac mewn hwyl yn ei anwylo,

Er y deil yn oer ei dwylo.

 

Yn eu plyg mae menig meinwen,

Parchus ânt yn ôl i’w perchen

Yn y fan, os yw’n anfonwr,

Hanner gair I Sioni’r gyrrwr.

~~~~~~~

Diolch yn fawr i Mrs G Sol Owen.

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com