|
|
Cromlech Carreg
o oes y cewri, - ni thorrwyd Un
lythyren arni; Ni
bu llenor â’i stori Na
chŷn dan ei chen hi. Islaw’r
graig mae seler gron, - a’i chynwys Yw
crochanau llawnion; Trysor
rhwydd, nis treisir hon, Hi
seilwyd a throsolion. Ymhell
o dir y Gelli – hon godwyd Yn
gadarn gan gewri; Er
bod crochan o dani, Yn
y maen mae swyn i mi. ~~~~~~~~~ Diolch yn fawr i Mrs G Sol Owen. |
|
Copyright © Rhiw.com |