|
|
Crempog fy Mam Rywsut onid
yw’n resyn Mawrth
Ynyd heb laeth enwyn? Aeth
defnydd crempog yn ddiau I
faniau ffatri fenyn. Un
denau iawn ei deunydd A
bwnir inni beunydd; Gwneir
crempog pan fo’r dorth yn brin I
Robin ar fyr rybydd. Mi
gefais siawns adderchog A
minnau’n was newynog I
brofi crempog llawer un O
ben draw Llỹn i Chwilog. Ond
er yr holl grempogau A
brofais drwy’r blynyddau, ‘Rwy’n
gorfod tystio yn ddi-nam Mai
crempog Mam fu’r orau. ~~~~~~~~ Diolch yn fawr i Mrs G Sol Owen. |
|
Copyright © Rhiw.com |