|
|
Bwthyn
Nain Bwthyn
heb fawr o bethau – a fu’n Nef I nain gynt a minnau, A brwyn o gors y bryniau Yno’n do i ni ein dau. O
ferw gwyllt i fro gain, - o faswedd I fiwsig côr plygain, Hiraeth a ddaw i’m harwain Fyth yn ôl i Fwthyn Nain. ~~~~~~~~~~~ Y
lori laeth Hyd
erwau Aberdaron – a Chwilog Ar echelydd trymion, Ar godiad daw ergydion Lori laeth i lawr y lôn ~~~~~~~~~~~~ Diolch yn fawr i Mrs G Sol Owen. |
|
Copyright © Rhiw.com |