|
Ynys
Enlli
Os
yr ewch ar draws y swnt i Ynys Enlli,
Mi wn yr hoffech eistedd gyda’r nos
I gael gweld yr haul yn machlud dros Iwerydd
A’r lloer yn codi dros Ardudwy dlos.
Mynd am dro i lawr i’r cafn a Phenrhyn Diban
Heb ddim i dorri ar dawelwch mud.
Ond yr adar môr yn clebran ar y creigiau
Hyn sydd, i mi’n dangnefedd yn y byd.
I gael clywed rhuo’r môr ar y creigiau
A gweld y dynion prysur yn y cae
Fe gawn eistedd o flaen tanllwyth yn y bwthyn
Yn edrych ar wylanod dros y bae.
Mae’r awelon mwyn sy’n dod o Ynys Enlli
Yn llawn o beraroglau broÿdd mud
Ac mae’r bobl dirion sydd yn trigo yno
Yn siarad hen dafodiaeth dlysa’r byd.
Os oes bywyd imi eto ar ôl angau
A gwn y digwydd hyn yn eitha siwr
Boed fy nefoedd fechan i ar Ynys Enlli
Yr Ynys fechan dawel dros y dwr.
Jennie
Jones, Dafydd Jones a Huw Williams
|

"Anti Jini Ty'r Ysgol"
|