"Pen draw'r byd"
Yn Aberdaron ddiwedd Awst
Y cwrddais i â Menna
Yn ei bicini ar y traeth,
Ac yn ei llaw banana.
Fe ddaeth hi acw ata'i fyw
Bu acw trwy y gaeaf
A thra y bu hi, rydw i'n siwr
Cafodd ddeg 'affair' o leiaf.
Fe'i daliais i hi hefo 'nhad
A mam a modryb Eurgain,
Mi ges i sioc o weled hyn
Mae hi yn bedwar ugain.
..............!!!!