|
|
"Gwaith Glo Rhoshirwaun"
Bu llawer o siarad gan luaws trwy’r fro Am ardal Rhoshirwaun ynglyn a’r gwaith glo. Ond wele’n bresenol caf roddi mewn can Mae pedwar yn tyllu – mae gobaith am dan.
O diolch am hyn O diolch am hyn A’r cyntaf i’w harwain Yw Williams Penbryn.
Ar ganol y claimant gerllaw y ffordd fawr Mae pedwar yn gweithio yn brysur bob awr. Yn gyrru’r hir ebill drwy’r creigiau dwfn certh Ni welais i ddynion eu tebyg mewn nerth.
Mae Humphrey Cae Garw yn fedrus tros ben Fe geidw yr ebill rhag myned yn den. Bob dyrnod mae’n wylied sy’n llefain ei dro Rhaid ydyw ymddatod er dangos y glo.
Rwy’n gweld Evan Ellis yn ddyrnwr di ail Mae’r ebill sydd ganddo ar soddi dan sail. Mae’r cyfan yn chwalu dan bwys ei drom ordd Y creigiau sy’n llefain “ rhaid gollwng i ffwrdd”
A Williams Trihobed ni welwyd ei fath Ai ebill fawreddog dros ddeng ugain llath Fe’i bwria mewn munud a’i llywio i’w lle Maen ddigon a dychryn cacynod y dre.
A Williams Lerpwl ni welais well dyn Mae’n deall dwfn raddau ansoddau gwlad Llyn Mi clywais o’n adrodd y tynith o’r glo Dros dreidio ‘i New Zealand. Mi coeliwn i o.
Mae llu o ardalwyr mewn gafael a’r gwaith Mae’u henwau yn rhifo chwech ugain neu saith. Hen gedyrn rhagorol a breiniol ein bro Rwy’n credu os mynant y gwelant y glo.
Rwyf innau fy hun rhyw awydd am dan Mae’r gaeaf ar wawrio nis gallaf wneud can; Yr awen a rewa ar lasrew hir nos Mae hyn yn brofiadol gan Gwilym y Rhos. ~~~~~~ O waith Gwilym Rhos 1888.
|
|
Copyright © Rhiw.com |