Gwilwyr bryn Madryn - a’i gwelo
Gwilio wnant hyd ddyddfarn
Gwyr kodes ar graig kadarn
Gwar neb gudd ar grib y garn.
|
Gweilch llwydion geirwon iw’ch goror - mynydd
Lle minia gwynt Ionor
Gwyr trymion uwch gwarr trimor
A’i galw i rym oll gwilwyr môr.
|
Gwilwyr di synwyr dison - am ryfel
Diymrafael diymryson
Dianwyd ydiw (r) dynion
Dan farig ar frig y fron.
Rhys Kain. |