|
|
"Hen
gwch dau flaen fy nhad" Mae’r
lle fy magwyd fi I’w
gael yn Aberdaron, A’m
hadgof mwyaf byw Yw
cwch fy nhad, sef Salmon ; Hen
gwch a holltai’r don ar daen, Hen
gwch oedd Salmon a dau flaen. Be
gwelech ef yn mynd Am
Enlli lawer tro ? Os
doi y don o’i ol Ei
hollti a wnai o ; Ac
os o’i flaen doi moryn cry’ Cai
frath o’i “fow” am fod ry hy’. Hen
deulu Enlli i gyd Edmygent
gwch fy nhad, A
thybient nad oedd gwch Cyffelyb
yn y wlad ; Am
“weddro tywydd” gwaetha i raen Ai
fantais ydoedd ei Ddau Flaen. Meddyliais
lawer iawn Am
Salmon-yr hen gwch, Ar
lawer stormus nawn A’r
tonau’n lluchion’n fflwch- Mai
gwirion iawn-a dweyd yn blaen, I
neb gael cwch ond cwch Dau Flaen. Creadur
ydyw dyn Nas
gwyr o ble daw ton, Pa
un a’i ol a’i blaen Daw’r
hyn a gyffry ei fron, Try
gwyntoedd bywyd “round about,” A’r
ffordd daw ton sydd “case in doubt.” Ieuenctyd,
cofiwch hyn- Mai
chwi eich hun ga’r gwaith O
wneud eich cwch eich hun I’ch
cario trwy eich taith ; Os
“pleasure-boat” fydd yn eich bryd Ni
ddeil ef ddim o donau’r byd. Daw
pawb i’r “beach” ryw dro I
gyffro’r “Breakers” gwyn, Bydd
“cwch dau flaen” yn siwr O
dalu’r adeg hyn- Fe
hyllt ei stern don ola’r byd, A
thiria ei “fow” i’r hafan glyd. J.T.Williams.(Pistyll) ~~~~~~~~~~~
|
|
Copyright © Rhiw.com |