|

Cerddi ar Gerrig
Ysgolion Llŷn
|
Ar Fedi 20fed a'r 21ain, 2006, daeth wyth o Ysgolion
Llŷn i ochrau Mynydd Rhiw i ymweld a safle cloddio Ffatri Fwyelli Oes y
Cerrig. Fel rhan o'r profiad, mi fu y plant yn barddoni efo'r Prifardd
Iwan Llwyd. Dyma'r cerddi i chi fwynhau. Ysgrifenwyd y cerddi a'r gerrig,
ac ar ddiwedd y dydd, dychwelwyd y cerrig i'r gloddfa.
|
***********

Iwan Llwyd a plant Edern
|
Ysgol Edern
Y Daith
Taith go serth
I fyny'r allt
A'r gwynt yn chwythu'n gwalltiau
Trwy'r pyllau dwr
A'r mwd a'r baw
Ond 'roedd hi werth y siwrne
I gloddio'r garreg
Goch o'r tir
A'i naddu'n offer inni
I dorri coed
I hela'r baedd
Y garreg ydy'n stori |
**********
|
Llidiardau
Cerrig mawr a cherrig mân,
Blodau’r eithin fel
gwreichion tân,
Sŵn y môr wrth droed y mynydd,
Ymhob tymor, ymhob tywydd.
|

Plant Llidiardau |
**********
 |
Llanbedrog
Ym Fudwr
Niwl ar y môr a'r gorwel yn
bell,
A Porth Neigwl yn dawel,
Yn y galon cyffro’n hel,
Ai hadlais ar yr awel.
|
*********
|
Crud y Werin
Ar Fynydd Rhiw mae eithin
melyn,
Ar Fynydd Rhiw mae cân aderyn,
Ar Fynydd Rhiw mae cerrig
llwydion,
A naddwyd gynt gan ddwylo
dynion.
Ar Fynydd Rhiw mae waliau cryfion,
Ar Fynydd Rhiw mae hen alawon,
Ar Fynydd Rhiw yr ydym ninnau
Yn cyfansoddi rhai benillion.
|

Iwan Llwyd a Phlant Crud y Werin |
***********
|
 |
Sarn Bach
Y
grug yn cuddio’r garreg
Ond daw i’r fei yn ara deg
Hen stori’r ffermwyr cyntaf
A
hwyliodd draw ar donnau’r Haf
A gliriodd a’i bwyelli
Fforestydd a choed di-rif
A throi y tir yn dir da
Yn barod i’r cynhaeaf
Nes down i Fynydd Rhiw
Yn fyddin ifanc heddiw
A down a’i hanes nhw yn ol
Agoriad i’r gorffennol.
|
 |
**********
|
Foel Gron
Cerrig dan rug ac eithin a
pren,
Cerrig oer a mwd a mynyddoedd,
Cerrig y môr yn y gwynt a’r
glaw.
|

Iwan Llwyd a Phlant Foel Gron |
*********
 |
Tudweiliog
Heibio i Drwyn Cilan i Borth Neigwl,
A Garn Fadryn yn edrych i lawr.
Ar ein cychod bychain yn cyrraedd
Drwy’r llanw a’r tonnau mawr.
Yna ei chychwyn i ben y mynydd
I gloddio am y cerrig cryf,
A’i naddu yn fwyell a chyllell
I
glirio’r tir ac i godi tŷ
|
**********
|
Pont y Gof
Mynydd Rhiw
Mae'n wyntog ar
ben mynydd Rhiw,
A'r môr islaw
yn ffyrnig
A'r eithin
melyn erbyn hyn,
A'r grug yn
cuddio'r cerrig
Lle dueai'r
ffermwyr cynta 'rioed,
I naddu'r graig
i dorri'r coed. |
 |
***********

Anrheg bach i'r Ysgolion gan Rhiw.com
************
|
Llun plant Foel Gron gan y Prif Athro Mr Geraint
Evans. Diolch yn fawr.
|