"Can Porthgolmon"

Hanes colliant y smack Anne yn agos i Enlli yr 16eg Mehefin 1771, neu fel gelwid y gerdd ‘Can Porthgolmon’ 1771.

Ar y mesur ‘Gwel yr adeilad’. Gan Ioan Stephen o Tyn Mynydd, Rhiw, Lleyn.

 ********

Dewch pawb i gydymdeimlo

Dan ganu mi rwy’n cwyno.

Mae gennyf achos

Am dri fechgyn cryno,

Oedd heinyf, sydd yn huno

Yn ol o’u heinioes.

‘Roedd dau’n wyryfon clysion clau.

A’r llall yn weddol wr priodol,

Yn byw’n gytunol pur unol parhau

Wrth feddwl am ei briod

Trwm hynod rwy’n trymhau;

I’w taith uwch mor o ddyfroedd maith

Cychwyna’r dynion o fau Porthcolmon

Yn llawen galon uwch tonnau llyfnion llaith

A hwylus ‘ant i’w helynt

Heb gynwrf arnynt chwaith.

 

Yn Milford darfu’nt lanio

Lle cant y ‘Cylm’ i lwytho,

Nid a’i ymhelaethu,

‘Nol tendio’u busnes weithian

Trwy ‘wyllys hwy droent allan.

Yn llawen felly.

Dwfn lawr tua chefn y Sianel fawr

Mor sadwedd sydyn hi godai’n ddrycin

A’r gwynt i’r herbyn oer erwin oedd yn awr.

Dechreuant fod yn drymllyd

A gofid yn eu gwawr,

Gwaeth, gwaeth, gwir enyd eto’r aeth

Gwynt mawr yn chwythu a’r nos yn nesau.

Gall pawb gyff’lybu eu bod mewn cyni caeth

‘Does neb a wyr mewn sylwedd

Eu diwedd fel y daeth.

 

Ond dyfod adre’n llawen

Wy’n dybio oedd eu dyben,

Rai gwiwilon galon,

A phawb yn bur gytunol

Heb dario yn wyr ystyriol,

Trwy fuddiol foddion,

Yn falm ni chlywir swn na sain,

Fod medd’dod nac arwydd diod

Nac ansyfuldod wyr hynod ar y rhain,

Pob un yn tendio’i fusnes

Yn addas gynes gain,

Er hyn munudau terfyn tyn,

A phan eu hamod oedd wedi dyfod

I fyn’d i’r gwaelod oer drallod syndod syn.

Ond bod a chyfri’n barod

Oedd hynnod erbyn hyn.

 

Pa galon na thosturia,

Pa lygaid na thywallta

Oer ddagrau heilltion,

Wrth feddwl O ! mor waeledd

Eu bod hwy’n awr yn gorwedd,

Dan donau geirwon,

Daw’r pryd i’n bawb ymado oll a’r byd

Wel cymrwn siampal na fyddwn wamal.

Par’town yn ddyfal daw atom dreial drud.

Rhag ofn wrth farn cyfiawnder,

Y’n ceir ni’n fydda’r fud.

Yn wir ni waeth ar for na thir

Pan ddelo’r amser rhaid myn’d ar fyrder

Mewn nerth na chryfder ni wiw rhoi hyder hir,

Yr ienga’ mwy na’r hyna’

Na’r sionca o fewn y sir.

 

Yr unfed dydd ar bymtheg

O fis Mehefin landeg,

Oer adeg ydoedd,

Y collodd rhai’n eu bywyd,

Eu cofio trwm yw’r gofid

I bawb a’i cafodd

Ond braw trwm sydd bob dydd y daw

Wrth gofio’r amser a’i rhai’n ar wasgar

Hyd waelod dyfnder mewn gwaelder llymder llaw,

Eu heiddio i gyd ar encil

A threigl yma a thraw

Mae cri a chwyno dyweda’ i chwi

Gan bawb rwy’n clywed eu cyfneseifiaid

A dyfroedd gwastad o’u llygaid sydd yn lli’

Na buasent ar y ddaear

Mae trymder am y tri.

 

Ni fedrant ond myfyrio

Ochneidio’n drwm a chwyno,

A chofio yn ddinam

Am Evan Robert, Rolant

A’i frawd, sef Robert wylant,

Ac Evan William.

Ond trwm yw gweld lle yn llwm,

Ar ol y dynion maent ym Mhorthgolmon

Yn tramwy’n drymion a’u gwedd yn seilion swm,

Mae pawb a chalon drymllyd,

O’u plegid fel y plwm;

Trwy’r fro nid oes i’w gael dan go’

Un dyn a aned nas caffo deimlad

A fedar ddirnad er trymed ydyw’r tro,

Nid peth a heibio hefyd

Am funud ydyw fo.

 

Mae Robert Rolant dyner

Yn wylo dagrau galon

Mae’n drymder cofus,

Gwraig Evan Robert hefyd

Sy’ a’i chalon yn dymchwelyd

Mewn penyd poenus

A’u mam sy’n cwyno bob cam

Er bod mewn salwch a throsti’n dristwch

Mae’r alar gwelwch yn bur ystyriwch pam

Ond hwn a’i carai’n ddilys

Daionus yn ddinam,

Oer don yw’r gawod hynod hon

Bob brawd a chefnder, a chyfnither

A’i chwiorydd tyner sy’n dioddef prudd-der bron,

Does neb yn perthyn iddynt

A’u gwedd a’u llun yn llon.

 

Ewch at y Beibl Sanctaidd,

Darllenwch hwnnw’n llariaidd,

Neu’n fwynaidd fanwl,

Cewch weled ynddo ddigon

O siamplau’r hen dduwolion,

Bai uniawn anwyl,

Gall rhai rywfodd eu gwel’d ar fai

Am fod yn drymllyd, gan dd’weyd yn goglyd,

Y gallent hefyd wall ynfyd wylo llai,

Os daw’r fath beth i’w blino

Rhaid synio pwy a sai’.

Nun mam nid oes mewn lle na llan.

Na neb drwy’r hollfyd mor ddifrycheulyd,

Na bo hir wendid wyr hyfryd ar eu rhan,

Fe wyla’r rhai duwiola

Mae’r cnawd mi wn yn wan.

 

Roedd Jacob mi rwy’n coelio

Yn dduwiol iawn yn wylo

Pan welai’r siaced,

Yr hon oedd frith ei defnydd

Yn waed o benbwygilydd

Ond oedd hi yn galed;

Oer saeth i’w galon union aeth:

Gan ddweyd yn dawel fy mab sydd isel.

Rhyw fwystfil anial heb gel ei ddiwedd gwnaeth

Ni fynai mo’i gysuro

Gan neb ond cwyno’n gaeth

Ond clyw ‘roedd Ragluniaeth Duw

Yn arwain Joseph drwy bob gelyn’aeth

I gasglu lluniaeth gwir helaeth odiaeth yw,

Cadd Israel wedi hyny

Ei faethu ganddo’n fyw.

 

Fel hyn mae Duw yn berffaith,

Yn trefnu pob rhagluniaeth,

Yn helaeth hwylus,

Na fyddwch anfoddlongar

Yn erbyn wyllys dyner

Ein tad daionus.

Duw nef sy a’i law a’i grym yn gref,

Yn ewyllysio i hyn ddigwyddo,

Nid ellir altro y peth a fyno Efe,

Gobeithion dan ei denydd

Mae’n clywed ym mhob lle.

Rhad mi ddwedaf yn ddiwad,

Y’ch cedwir eto heb ddim o’r eisio

Ond i chwi ei foddio ‘rwyn coelio’n ddinacad,

Cewch ganddo ond ei geisio,

Mae’n llywio er gwellhad.

 

O ! byddwch bawb yn hyfryd.

Pwy wyr na chawsant wynfyd,

A bywyd bywiol;

A chael maddeuant pechod

Cyd obaith buddiol,

Eu bod yn union mi rof nod

Ac wyf gyfarwydd o oed ein Harglwydd

Un mil saith gan mlwydd a deg yn digwydd bod

Un mlwydd a thrugain eto

I’w rhifo dan y rhod;

Uwchben i nofio i’r Nefoedd wen,

Duw a’th drugaredd dod fraich i’n cyrhaedd

Trwy Oen a’i haeddiant fe’n prynodd ar y Pren

I heddwch yn ei haeddiant

Er mwyniant mwy, Amen.

 *******

Yr oedd yr  Ioan Stephen cyfansoddydd y gan hon yn enedigol o Sir Aberteifi daeth y Parch Evan Rice, Person Rhiw ac ef pan ddaeth yno i fod yn glochydd, dilledydd, ydoedd wrth ei alwedigaeth ac yn byw yn Tyn y Mynydd, Rhiw. Yr oedd un o’i ferched yn nain i’r doniol (a’r un grefft ac ef) Evan Morgan, Tyn Llyn, Aberdaron ac yn hen nain i’r adroddwr adnabyddus Deiniol Fychan, Bangor.

Owen Griffiths, Pen y Graig Lleyn.

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com