|
|
"Drylliad y brig Ann o Bwllheli" (Tachwedd
1838) O
gymdogion dewch i wrando Hanes
mordaith galed iawn Chwi
a gawsoch geni’n gryno Pe
buasai gennyf ddawn: Captain
Williams o Lanengan Deg
yn rhagor gydag E Yn
yr ‘Ann’gychwynai’n drefnus O’r
Amerig tua thre. Ar
y dyfnder ymchwyddedig Cawsent
lawer diwrnod blin Eu
doethineb’nawr a ballai Gan
erwindeb mawr yr hin. Llawer
noswaith dywyll oeraidd Dreuliwyd
ganddynt ar y don Ond
er hyn oll hwy obeithiant Gyrraedd
pen eu taith yn llon. Ar
un bore trwm ei gofio Daeth
ryw hyrddwynt nerthol iawn Nis
gall neb ddarlunio’r storom Byr
yw deall pawb a’u dawn. Torrai’r
Mestys mawrion nerthol Golchai
bob peth oddiar y ‘deck’ Gwnaed
y rigging oll yn wreck. Colled
fawr i Jones y Druggist Colli’r
‘Ann’ a’i llwyth ynghyd Ond
mae rhyw rai wedi teimlo Colled
fwy na cholli’r byd. Fe
eill Jones gael llongau eto Llawer
mwy eu gwerth na’r ‘Ann’ ‘R
Arglwydd roddo llwyddiant iddo Ac
a’i wnelo’n gefn i’r gwan. Rhyw
beth eto mwy difrifol Sy’n
yr hanes hon yn siwr Hynny
yw fod rhai o’r dwylo Wedi
claddu yn y dwr. Cyrph
yn gorwedd yn yr heli Gwely’n
oer a’u llety’n llaith A’u
heneidiau wedi setlo Yn
y tragwyddoldeb maith. Rhai
adawyd yno’n weddill Ofn
a braw a lanwai bron Heb
un gobaith am gael gweled Wyneb
mwy ar ddaear gron. Ysgwyd
dwylo a ffarwelio Wnaethant
oll dan wylo’n ddwys Angau
ydoedd yn ei golwg Dyma
awr o ddirfawr bwys. Wedi
dyfod i gyfyngder Gwaeddi
wnaethant ar Dduw Ior ‘Rhwn
sy’n ffrwyno’r gwyntoedd nerthol Ac
ofnadwy donnau’r mor. Rho
drugaredd i’n heneidiau Darfu
amdanom cadw ni Nid
oes ond dy ras yn unig A’n
gwared byth rhag uffern ddu. Yno
buont mewn caledi Ddyddiau
a nosweithiau maith Wedi
i bedwar fynd i’r eigion Rhai
adawyd oeddynt saith Nid
oedd ganddynt ddim i’w fwyta Dim
i’w yfed, chwaith na than Heb
ddim goleu heb ddim canwyll Na
diferyn o ddwfr glan. Pan
yr oeddynt yn safn angau Oll
yn brudd a gael eu gwedd Gyd
yn ofni ac yn wylo Wrth
yr olwg ar eu bedd. Duw
anfonai ymwared iddynt Llong
a ddeuai atynt hwy Wrth
ei gweld llawenychant Nid
oedd raid fod yno’n hwy. Mawr
a rhyfedd oedd trugaredd Ion
anfeidrol Duw pob gras ‘Rhwn
a’u cadwodd mor rhyfeddol Rhwng
y tonnau mawrion bras. Caed
y saith i fwrdd Republick Allan
o’u cyfyngder mawr Yn
y Leinar cawsent orffwys Darfu’r
lludded oll yn awr. Wedi
cael eu codi fyny Cawsent
garedigrwydd gwiw Pob
ymgeledd a digonedd Breintiau
mawr ymhlith y byw. Hwylio
buont am dair wythnos Cyn
cael rhoi eu traed ar dir Yn
New York y cawsent lanio Medd
yr hanes dyma’r gwir. Disgwyl
mawr oedd yn Llanengan Am
yr ‘Ann’ i ddod i’r Road Ac
mewn mannau eraill hefyd Lle’r
oedd teulu’r dwylo’n bod. Amser
maith a redodd heibio Blin
oedd bod mewn ofnau mawr Tadau
mamau a phob graddau Fethent
gysgu llawer awr. Ple
mae machgen. Ple mae mhriod Ple
mae mrawd, o Ple mae’r ‘Ann’? Methu
gwybod ymhle’r oeddynt Dyma
glywid ymhob man. Dringwyd
llawer i ben bryniau Llwybr
coch a wnaed gan rai O
wir ofal am eu teulu Methent
aros yn eu tai. Wedi
bod fel hyn yn disgwyl Ac
ymofyn ymob modd Am
ryw yspaid maith o amser Dim
o hanes ‘Ann’ nid oedd. Dechrau
wylo ac ochneidio Roedd
perthnasau fawr a man Pob
rhyw obaith yn terfynu Bron
a’i roddi fyny’n lan. Ond
o’r diwedd fe ddaeth llythyr Oddiwrth
Williams at ei dad Dywedai’n
hynod am ei helynt A
thrugaredd Duw yn rhad. Prin
y gallai neb ei ddarllen Toddai
galon pawb o’r bron Dwedai
am y sawl a godwyd A’r
rhai guddiwyd dan y don. O
mor anhawdd oedd mynegi I’r
perthnasau trwm fu’r gwaith Fod
y rhai anwyla ganddynt Wedi
colli ar y daith. Gwragedd
gweddwon plant amddifaid Brodyr
a chwiorydd lu Sydd
mewn galar a wylofain Wedi
gwybod sut a fu. Ymhen
ychydig o wythnosau Trwy
ddaioni’r Nefol Dad Clywai
fod y rhai gwaredol Wedi
dod i dir ei gwlad. Yn
Llanengan roedd llawenydd Pawb
yn siriol iawn a wnaed Trwy
gael gweled y rhai annwyl Fu
golledig ac a gaed. O
gyfeillion nac anghofiwch Ryfedd
drugareddau Duw Rhowch
eich hun yn aberth iddo Gweddus
a rhesymol yw. Cwasoch
waredigaeth hynod, Na
ddilynwch wagedd ffol Ceisiwch
grefydd a duwioldeb Tragwyddoldeb
sydd yn ol.
|
|
Copyright © Rhiw.com |