|
|
Beth Oedd y Mater yn Aberdaron? ~~~~~~~~~~ I’r
Gwyddil cynil a’u cer – a’u dillad Dehellwch
yr amser Anrheg
gwartheg yn eu gwer, A
mwttwn oedd y mater. Gruffydd Bodwrdda. ~~~~~~~~~~~ Yn Nhachwedd 1643 gwnaeth y Brenin Siarl 1 trwy ddichell heddwch a’r Gwrthryfelwyr yn Iwerddon; yna dygodd oddiyno bedair mil o fulwyr y rhai a elwid yn ‘English Irish’ ac weithiau ‘Irish’ i ymosod ar wyr y Senedd yn Ngogledd Cymru. Tachwedd 18, glanioddddd 2,500 ohonynt ym Mostyn Sir Fflint a mintai arall ym Mon. Yr oedd y rhai hyn oll mewn cyflwr gresynus iawn heb dderbyn eu cyflog yn Iwerddon, yn newynog a noethion; a’r awdurdodau yn ofni ar gyfrif hynny, y buasent yn cymeryd eu hudo drosodd at wyr y Senedd. I ragflaenu’r trychineb hwnw, anfonwyd bryslythyrau at y ‘Comissioners’ a phleidwyr y brenin ym mhob sir yn Ngogledd Cymru yn erchi iddynt gyflenwi’r a bwyd a dillad ac arian. Dyna oedd y mater yn Aberdaron o’r hwn mae’r englyn uchod yn ddisgrifiad. ~~~~~~~~~~ Englyn
i Gwch Ynys Enlli. Caseg
oer waneg wyr heini – i ddwr O
Ddaron i Enlli Gwaelgwch
yn llamu gweilgi A
phren yw hol ei ffrwyn hi. Richard Hughes Cefn Llanfair. ~~~~~~~~~~~~ Daw’r
Englynion yma allan o’r llyfr ‘Cynfeirdd Lleyn 1500 – 1800’
|
|
Copyright © Rhiw.com |