Ym mhen y Rhiw,

Ym mhen draw Llỹn.

 

Cyn anfon hyn o stori

Bûm yn cysidro’n hir,

Ac yn rhyw led obeithio

Nad yw hi ddim yn wir.

‘Rwy’n cadw’r enw yn fy sach,

Caiff  wisgo’r cap yn ddistaw bach.

 

‘Roedd gornest chwarae cardia

Yn neuadd pentrae Rhiw,

Ac yno o’r ardaloedd

Ymgasglodd yr hen griw,

A phawb yn hapus a chytûn

Ym mhen y Rhiw, ym mhen draw Llỹn.

 

‘Roedd ysbryd y Nadolig

A’r criw i gyd mewn hwyl,

Calonnau yn datguddio

Ewyllys da yr Ŵyl,

A Seren Bethlem fel erioed

Oedd yno’n llusern i dy droed.

 

Ond daeth dialwr heibio,

Dialedd dan ei fron,

Anfonodd am y gyfraith

I boeni’r cwmni llon,

‘Roedd ceir heb olau yn sarhad

Mewn man diarffordd yn y wlad.

 

Cyrhaeddodd yr heddgeidwad

O rywle ar ei hynt,

Gan gofio’r hen, hen hanes

Sydd am y Doethion gynt.

A rhoddodd gyngor iddynt hwy

Heb gofio am eu camwedd mwy,

 

A chwarae teg i’r cyfaill

Ddaeth ar ei drafel drist

Am ddangos goddefgarwch

Tangnefedd Iesu’r Crist,

A dim ond dweud rhyw air neu ddau,

A’r criw i gyd yn ufuddhau.

 

Rhof gyngor i’r dialydd

Wrth im derfynu’r gân

(Os yw yn gallu canu)

Am ganu “Calon Lân”.

Mil harddach yw na lili dlos;

Gall ganu’r dydd, a gweld y nos.

 

                                    Will Parsal.

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com