|
|
Hwyaid
Bach Bryngoleu Fu Foddi Ar Y Dwr Wel
dyma stori hynod.
‘Rwy’n methu coelio,bron, Mae’n
siwr bydd peth dirgelwch
Sut daeth y stori hon. Nid
oes dim ‘happy ending’
Mae hynny imi’n friw, Ond
iddi ddolen gydiol
A David Wyn y Rhiw. Daeth
digger mawr i’r ardal;
O ble, nid wyr yn siwr, A
chloddio twll arbennig
Ar gyfer ceudy dwr. A David Wyn yn gweled
Y cynllun yn un iach, Ofynnodd
am dwll tebyg
Gerllaw Bryngoleu bach. Fe
wnaeth y llanc a’r digger
Dwll llydan sgwar a dyfn, Un
taclus anghyffredin,
A’i ochrau i gyd yn llyfn. Er
bod y twll yn barod,
Anghofiodd ef ei dasg, Gwell
ganddo ysgrifennu
Llythyrau maith i’r wasg. Trefn
natur sydd yn gweithio
Yn dawel a di-stwr; Tra
bu yn ysgrifennu
Daeth llond y twll o ddwr. Aeth
hwyaid bach Bryngoleu
Un dydd i lan y twll A
methu gweld gwahaniaeth
Cyd-rhwng y twll a phwll. Bu
chwilio brwd trwy’r ardal
O fore hyd yr hwyr, A
hwyaid bach Bryngoleu
Wedi diflannu’n llwyr. Er
chwilio’r ffyrdd a’r caeau
Nid oedd na siw na miw; Roedd
rhai yn dechrau amau
Sion Blewyn Coch y Rhiw. ‘Roedd
yno wr llygadog,
Fel gwyliwr ar y twr, A
ddaeth o hyd i’r hwyaid
Yn gelain ar y dwr. A
diwrnod trist oedd hwnnw,
Sef dydd eu claddu hwy, A
llethol y distawrwydd
Heb swn eu cwag-cwag mwy. Wel
dyma wrth y y cyfnod,
O hyn ‘rwy’n berffaith siwr, Mai
dyma’r hwyaid cyntaf
I foddi ar y dwr. Mae’r
faled hon yn myned
I’w chadw o dan sel, Yn
llyfrgell fawr St Ffagan
Er mwyn yr oes a ddel. Mae
David Wyn a minnau
Yn debyg, welwch chwi; Hel
straeon a’u goganu
Yw fy niddordeb i. Will Parsal
|
|
Copyright © Rhiw.com |