Helynt Heb Ddim Eisiau.

  Mae diofalwch weithiau

   Yn creu rhyw helynt fawr.

Digwyddodd yn ddiweddar

  Ai hadrodd rwyf yn awr.

Arferiad gan yr ifanc

  Yw mynd am dro I’r dre,

Os ffafriol fydd y tywydd

   Mae hynny yn OK.

 

Fel arfer un nos fercher,

   Ac eira dros y wlad.

Aeth Jean sef merch Bodwyddog

   A gadael siop ei thad.

Mae crwydro ar fath dywydd

    I mi yn syniad ffol

A’r noson sydd dan sylw

   Ddaeth Jean ddim adre’n ol.

 

Gerllaw I bentref Edeyrn

   Y fan a aeth yn stuck,

A rhaid oedd ffonio adref

   I ddweud am y bad luck.

Ac yno bu rhaid aros

  Yng nghwmni ffrind mae son

A’r fan bach wedi nogio

    Mewn eira ar y lon.

 

Aeth Tomos bore tranoeth

    A hynny gyda’r dydd,

I Edeyrn efo’r tractor

   I dynnu’r fan yn rhydd.

A dyma ddechrau’r helynt

Ac aeth o ddrwg I waeth,

Oblegid nid oedd cerbyd

I ddanfon cania llaeth.

 

Roedd yno dractor arall

Ond nid oedd gwynt yn hon,

Ni welsoch ffasiwn helynt

Erioed ar ddaear gron.

Am fan Tom Rice aeth Rheinallt

I fynd a’r cania llaeth

Er iddo dynny’r starter

Wel gWel gwrthod tanio wnaeth.

 

  A rhaid oedd mynd a’r cania

I blawdty’r dyddiau hyn,

Oblegid bod y gelltydd

Yn drwch o eira gwyn

Does dim I’w wneud medd Rheinallt,

Ac meddai ef fel dyn

Mi af a’r llaeth ar unwaith

A ngherbyd bach fy hun.

 

Ac felly caed y lori

Mewn pryd y bore hwn,

Mae dyled Jean I’r hogia

Yn od o fawr mi wn.

Pe bae’r hen hogan wirion

Heb fynd a’r fan I’r dre,

Ni fuasai’r holl ymboeni

Nac anhrefn yn y lle.

                      Medda nhw.

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com