|
Mwyn ddymuno hwyrddydd hyfryd
I hen ddoctor gorau'r hollfyd,
Iddo ef a'i Siân a'i Ffordyn
Bydded hwyl ar hoe a chetyn.
Ni bu hafal hwn am ffisig
Roedd ei air yn anffaeledig,
Gyda'i wên fe â'i pryderon;
Feddyg hoff o gynnes galon.
Nid oedd lluwch na llid y ddrycin,
Nid oedd anterth oerfel gerwin,
Nid oedd llwybrau serth a geirwon
Rwystrai hwn rhag gweld ei gleifion.
Fraeth ei air a gwiw apostol
Holl flinderau'r natur ddynol,
Gymwynaswr mawr ein gwerin
Mawr ei ddawn a mawr ei ruddin.
Wrth ddymuno'r gorau iddo
Rhaid cyfaddef fu tramwyo
Hyd y ffordd yn haws o dipyn
Heb y doctor a'i lwyd Ffordyn.
Gwelais neithiwr yr arch-angel,
(Nid y Doctor mwyn, ond Gabriel)
Cyfrif ydoedd droeon afrad
Yr hen feddyg o Langwnad !
Nid oedd dim yn erbyn Bobi
Dim un cofnod am drybini,
Nes daeth gwys rhyw swyddog piwis
Yn ei blastro yn gynddeiris.
Gyrrai hwn y Ffordyn meddir
Yn ôl rheol y cyfandir,
Ond medd Gabriel yn ddiamwys
"Dyna highway code paradwys".
Ddoctor gwiw a'i briod annwyl,
Mynwn heno hedd i'ch noswyl,
Er na ddeuwn atoch rhagor,
Mynnwch chwithau fyw heb ddoctor.
John Morris
|
|
Galw’r
Doctor.

Ar
ddiwrnod o eira mawr cafodd Dr Bobi Jones alwad i ddod i weld un o’i
gleifion yn Rhiw. Gan fod eira at dop y cloddiau, yr oedd rhaid iddo adael ei gar ym Mhengroeslon a cherdded
y dair filltir i fyny i’r pentra, y rhan fwyaf o'r amser roedd
rhaid iddo gerdded ar hyd ben y cloddia am fod yr eira mor ddyfn. Pan
gyrraeddodd dy’r claf gofynodd iddo beth oedd yn bod “ Dim” medd
yntau “ Dim ond eisiau
gwybod on i taswn i yn wael y gallech chi ddod”!!!!!

"Fordyn Dr Jones" |