Aberdaron

  Daeth inni hen draddodiad,

    O gyfnod pell yn ol,

Fod pentref Aberdaron

Ar wastadeddau’r ddol;

Dwy Dwy filltir rhwng yr eglwys

A thonau bras y môr,

Pan ei cysegrwyd gyntaf i wasanaethu’r Ior.

 

Ac Aber y dair afon

Yw’r ystyr cyntaf roed,

I’r pentref isel tawel,

Na wyddys ei iawn oed;

Os felly ar y tiroedd

Sy’n awr odan y don,

Yr unai y tair afon

Eu cerddi mwyn a llon.

 

Hawdd credu’r hen draddodiad,

    Er bore fy oes i

Aeth darnau helaeth ymaith

      I rywle gyda’r lli

Y mae un afon bellach

Am hanner blwyddyn gron,

Yn suddo dan y pentref,

Nes cyrraedd min y don.

 

Dirgelwch i mi ydyw

   Y modd y llwydda hi

I suddo dan y penterf

I’w charterf yn y lli;

A beth fydd effaith hynny

Oes undyn byw a wyr?

Ai doeth f’ai gwneud ymchwiliad

Cyn ‘relo yn rhy hwyr.

 

Mae Aberdaron heddiw

Yn newydd bron i gyd,

Yn gyrchfan i ymwelwyr

O bedwar parth y byd;

Ond erys yr Hen Felin

Er nad yw’n malu’n awr,

A daw yr hen felinydd

Fel arfer eto i lawr.

 

Ar ffiniau Aberdaron

Y’m ganed i i’r byd,

Ac yn y fro y treuliais

Fy mywyd bron i gyd;

Pe cawn ail gychwyn eto

Ni wn am unman gwell,

Pe chwiliwn Gymru gyfan

Yn agos nac ymhell.

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com