|
|
"Ymadawiad Clagwydd" Mi
geisiaf eto ganu Rhyw
bwt o gan neu ddwy Ar
noson oer o aeaf Wrth
eistedd wrth y tan. Mae
pawb yn nabod Megan Sef
gwraig i Evan John, Wel
dyma’r sawl a greodd Y
testun i’r gan hon. A
beth am gael yr hanes Wel
dyma fo heb lol. Mae
Megan o Bryn Chwilog Yn
arw am ei bol, Ac
wrth ei bod yn ‘Dolig Rhaid
oedd wrth geiliog gwydd Addawodd
hen Jemima Un
iddi’n ddigon rhwydd. Aeth
Megan draw un noson I
Ben y Maes a sach I
mofyn yr hen glagwydd Yn
ddistaw, ddistaw bach. Cychwynodd
tuag adref Yn
g’lonog erbyn hyn. A
rhoddodd yr hen glagwydd Mewn
boiler yn y bryn. Ymhen
ychydig amser Aeth
Meg a Evan John I
olwg yr hen foilar Ond
gwag oedd cynnwys hon. Pan
welodd beth ddigwyddodd Fe
deimlodd Meg y chwys A
rhaid oedd chwilio amdano A
hynny gyda brys. Aed
draw i Bryn Awelon Fu
‘rioed y ffasiwm ras. A
John Bryn Chwilog Isaf Yn
filain ac yn gas. Ond
nid oedd son amdano Tu
fewn i dir y lle A
Meg yr hen greadures Yn
mynd ‘fel dwn i’m be’. Meddyliodd
y gallasai Fynd
i Ben maes yn ol A
ffwrdd a hi am yno Gan
deimlio braidd yn ffol. Ond
chwerthin wnaeth Jemima Ac
felly wnaeth ei gwr Ond
nid oedd clagwydd yno ‘Roedd
hynny’n ddigon siwr. Dechreuodd
Megan boeni Ni
wyddai ple i droi A
nesu oedd Nadolig A
dim o’i blaen i’w roi. Meddyliodd
am gael cyfri Da
pluog Thomas John A
gwelwyd un yn ormod Ar
lawr y buarth hon. Fe
gododd Meg ei chalon A
gwen ddaeth ar ei grudd. A
gwelodd yr hen glagwydd Oedd
newydd dorri’n rhydd. Fe
gododd bore trannoeth A
hynny gyda’r wawr I’w
gludo tuag adref A’i
gau yn saff yn awr. A
gyda’r bos daeth Hughie Sy’n
byw ym Mhen y Bryn, I
dalu ei ymweliad I’r
teulu dedwydd hyn. Pwy
welodd ond ‘rhen Wagi’ Yn
pluo’r clagwydd blin A
hwnnw’n hanner marw Yn
neidio ar ei lin. Ond
chwarae teg i ‘Gwagi’ Am
gymorth bach fel hyn Ond
methu peidio chwerthin Oedd
Hughie John Pen Bryn. Fodd
bynnag cafodd Megan Nadolig
hapus iawm Bwyteodd
yr hen glagwydd Nes
bod ei bol yn llawn.
A.B.C. |
|
Copyright © Rhiw.com |