|
|
"Y Rhwyd" Mi
glywais stori ryfedd Am
lanc o ochrau’r Rhyd, Mae’n
hannu o Uwchmynydd Adwaenoch
ef i gyd. Mae
hwn yn gychiwr medrus Gall
hwylio yn y gwynt, Ni
chollai y Rigetta Pe
cawsai ddau gan punt. Meddyliodd
buasai ‘sgodyn Yn
gwneuthr pryd o fwyd Cychwynnodd
am Borth Ferin Ac
yn y fan ‘roedd rhwyd. Gosododd
hon yn daclus Yn
nhonnau glas y lli, A
chawell yn ei hymyl Ac
abwyd am wn i. Daeth
Henry yno drannoeth Ni
allai weld y rhwyd, Aeth
adref yn ddigalon A’i
wedd yn ddigon llwyd. Roedd
Mattie yn ei ddisgwyl, A’r
badell ar y tan, Ond
siom a gafodd hithau Dim
‘sgodyn oedd y gan. Ond
pan aeth Gwilym allan, Beth
welai coeliwch fi Ond
yr hen rwyd a’r cawell Yn
myned efo’r lli. Mae
Gwilym yn un medrus Ac
ni fu fawr o dro, Yn
codi’r rhain i fyny Cyn
iddynt fynd ar ffo. Gosododd
hwy yn daclus Yn
Anol ar y lan, Fe
wyddai deuai Henry A’i
gweled yn y man. Ond
pan ddaeth Henry yno Edrychai’n
ddigon syn, Beth
welai yn y cawell Ond
cath fach ddu a gwyn. Ni
allai Henry ddirnad O
ble y daethai hi Nes
clywodd Now yn gwaeddi ‘Ble
mae fy nghath fach i?’. Bu
raid ei thynnu allan Ac
adref aeth yn syth. ‘Rwy’n
siwr nag aiff yn agos I
gawell Henry byth. Os
bydd yn ddigon lwcus I
osod rhwyd yn iawn A
dal cath for tro nesa Fe
fydd ei blat yn llawn.
Pwy tybed ?. |
|
Copyright © Rhiw.com |