|
|
"Hanes hynod Mochyn" Aeth
dwy o ferched glandeg Ar
daith i brynu moch, I
Garreg Plas yn foreu Oddeutu
naw o’r gloch. ‘Rol
cyrraedd ac ymbincio A
sychu peth o’r chwys Fe
alwyd ar y Bailiff A
hynny gyda brys. Fe
ddaeth y Bailiff rhadlon Bu
ymgom rhwng y tri, Am
achau yr hen hychod Ac
am ei ‘pedigri’. Bu
dadleu brwd ar brydiau Cyn
taro’r fargen fawr, Fodd
bynnag prynwyd pedwar Mewn
llai na hanner awr. Fe
syrthiodd llygaid Annie Ar
fochyn bychan twt, Yn
swatio yn bur ddistaw Yng
ngongl bella’r cwt. Faint
am y mochyn bychan? Gofynnodd
Annie’n syth, Fe’i
prynwyd ar amrantiad Peth
del yw bach y nyth. Pa
fodd y cawn hwynt adref? Medd
Catrin braidd yn drist, A
ellwch chi eu danfon A
hynny am ‘run bris? Bodlonaf
ar y fargen Medd
‘Now’ dan grafu’i ben Anfonaf
un o’r bechgyn I’w
hebrwng yn y fen. Cychwynodd
Gwilym drannoeth Oddeutu
un o’r gloch Heb
feddwl am ‘run anffawd Yng
nghwmni pump o foch. Edrychai
Wil fel hurtyn ‘Rol
cyrraedd i Brynpoeth, Nid
oedd ond pedwar mochyn Yng
Ngherbyd y gwr doeth. Daeth
Rhian ar ei deurod O’r
Daron gyda hyn, Arswydodd
weled mochyn Yn
syllu arni’n syn. I’r
Cwrt yr aeth ar unwaith I
adrodd am y loes, A
ddaeth a’r mochyn bychan Orweddai
yn y ffos. Aeth
Wil o’r Cwrt yn sydyn Fel
meddyg at y gwaith, A
lleddfu ei ddoluriau A’i
ddwyn i ben y daith. Daeth
Richard Pritchard yntau A
Gwilym gyda’r fen, I
geisio y colledig Ystyfnig
a di ben. Fe’i
dygwyd i Ty’n Gandda Yn
nghwmni ei frawd bach, A
hynny wedi ei rwymo Yn
saff yng ngwaelod sach. Pa
fodd dihangodd mochyn? O’r
fen gauedig gref, Yw’r
cwestiwn a ofynir Gan
bawb mewn gwlad a thref. Efallai
meddai rhywun I’r
mochyn weld y gwynt, Nes
gall fod cythraul ynddo Fel
mochyn ‘Gadara’gynt.
Mawrth 31ain 1953. |
|
Copyright © Rhiw.com |