|
"Golygfa tua’r Gorllewin" Mi
welaf Fwlch Anelog A
chopa’r Mynydd Mawr Mi
welaf Fynydd Enlli A’r
Swnt yn is i lawr. Mi
welaf hafn Porth Meudwy Mae’r
Ystum i mi’n nes A
thonnau Aberdaron Yn
gwynnu dan y gwres. Mi
welaf drwyn y Penrhyn A
choed Bodwrdda Hall, Mi
welaf Siop Pencaerau Dirgelwch
yn ei chol. Mi
welaf Penarfynydd Wrth
droed ei fynydd llawn, Yn
syllu ar Borth Ysgo Foreddydd
a phrynhawn. Mynydd
Graig ddaw eto Hen
gaerfa’r cadno coch A
daw o holltau greigiau Sisialaidd
wich y moch. Mi
welaf Glip Gylfinir Ar
sylfaen manganese A
Mynydd Rhiw yn codi Yn
uwch o ris i ris. Efallai
fod yn cofio Am
dinc hen glychau’r dre A
chadw ffyrnig donnau Porth
Neigwl yn eu lle. O
danynt mae hen drefi Fu
gynt yn fawr eu stwr A
chlychau Cantre’r Gwaelod Yn
canu dan y dwr. Mi
welaf Foel Mynytho A
mynydd saethon draw. Mi
wela’r ddwy GarnFadryn A
phlant y llan islaw. Efallai nag ydi’r gerdd yma yn gyflawn a bod mwy o benillion
|
Copyright © Rhiw.com |