|
|
"Dilyw
yn Aberdaron Ai’r
cymylau dros Uwchmynydd Megis
byddin fler ar ffo A
throi’r tonnau ‘n swn bygythiol Wrth
ymdorri ar y gro. Llechai’r
defaid wrth y cloddiau Cloddiau
godwyd oesoedd gynt A
gwylannod fel plu eira Ffoent
i rywle rhag y gwynt. Storm
sy’n dod medd Wil fel proffwyd Wrth
ddrws ffrynt y Gegin Fawr A
doi mwg o’i bibell gwta Fel
colofnau glas ei gwawr. Ie’n
siwr medd Griffith Ellis Gerddai’n
araf hyd y stryd Ni
eill Senedd Genedlaethol Ddofi
dim ar aea’r byd. Cyn
bo hir datododd duwiau Gwlwm
holl gostrelau’r glaw A
daeth rhwd i lawr yr afon Lliw
clai coch o’r corsydd draw. Chwyddai’r
llif a daeth Huw o’r Felin Yn
ffwdanllyd gam a gwedd. Gwaeddodd
o, ‘Achubwch fy ngheiliogwydd Neu’r
Nadolig ni chaf wledd. Poerai’r
ddrycin ei chawodydd Yn
ddidostur dros Ben Llyn Nes
i’r Daron chwyrn yn wawdlyd Lifo
dros derfynnau dyn. Beth
sy’n bod medd llais o’r Gladstone Llais
cyffrous o lofft y ty A
daeth dilyw fel ein cosbir Byd
digapel brwnt a hy. Ebai
William Jones o’r Dolfor. Dilyw
ydyw coelwich fi Nid
oes enfys yn y nefoedd Dim
ond arwydd mwy o li Doed
y crydd a’r gof a’r seiri I
wneud arch a’n ceidw’n fyw Onide
fe’m cipir ymaith Megis
deilen ddiwerth wiw. Na
medd Henry Lloyd mewn protest Callach
awgrym gennyf sy Rhowch
frws llawr i bob pen teulu I
amddiffyn drws ei dy. Dyna
wneuthum i ers oriau Nes
i gyrn ddod ar fy llaw Brwsio,
dwrdio, chwysu, brwydro Cadw’r
drws rhag mintai’r glaw. Ai’r
cymylau dros Uwchmynydd Fel
gorffwyllog lu ar ffo A
throi’r tonnau’n riddfan chwerw Wrth
ymguro ar y gro Llechai’r
defaid wrth y cloddiau Dawnsiai’r
wyn saith mis yn gynt A’r
gwylanod llesg ddihangent Rhywle,
rhywsut rhag y gwynt.
Perthynas Pell i Noah ( John Jones Cefn Coch). |
|
Copyright © Rhiw.com |